Skip to content

Ein Dyfodol Iach - Papur gwaith technegol

Dolenni perthnasol

Gosod cyfeiriad strategol ar gyfer iechyd cyhoeddus tan 2020.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r ddogfen hon yn agenda ar gyfer iechyd y cyhoedd am gyfnod i ddod.

Mae Ein Dyfodol Iach yn adnewyddu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella ansawdd a hyd bywyd ac i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle teg i fyw bywyd iach. Mae’n amlinellu gweledigaeth hirdymor sef bod:

  • Plant a phobl ifanc yn cael cychwyn da mewn bywyd sy’n hybu eu hiechyd a’u lles hirdymor. 
  • Pawb yn anelu at gael bywyd gweithiol iachus sy’n rhoi boddhad iddynt ac yn cael cymorth i gyflawni hynny.  
  • Pobl hŷn yn cael yr wybodaeth, y sgiliau neu’r gefnogaeth i wneud dewisiadau gwybodus am fyw bywydau annibynnol a llawn.
  • Iechyd y bobl fwyaf difreintiedig yn gwella gan gyrraedd y lefelau a geir ymhlith y rhai mwyaf breintiedig.    
  • Ymdrech i greu cymunedau iach a chynaliadwy i bawb – llefydd y mae pobl yn dymuno byw, gweithio, chwarae a ffynnu ynddynt.   
  • Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi mwy o bwyslais ar atal ac ymyrryd yn fuan.
  • Iechyd a lles yn nod y mae pawb yn ei rannu.
  • Ein polisïau a’n hymyriadau ym maes iechyd y cyhoedd wedi’u seilio ar dystiolaeth dda ac yn cael eu monitro.