Skip to content

Presgripsiyanau am Ddim Dair Blynedd yn Ddiweddarach

Dolenni perthnasol

Pan fyddwch yn sâl a bod angen i chi weld meddyg teulu, bydd y meddyg yn penderfynu ar sail glinigol a oes angen meddyginiaeth ar bresgripsiwn arnoch i wella’ch iechyd.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r adroddiad hwn yn nodi tair mlynedd o bresgripsiynau am ddim. Mae'n dangos sut y mae presgripsiynau am ddim yn helpu i wella iechyd pobl Cymru.

Dileu ffioedd presgripsiwn yw un o brif gyflawniadau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cyn cyflwyno’r polisi, nid oedd pobl â chyflyrau fel asthma, clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel, neu’r rheini oedd wedi derbyn trawsblaniad organ, â hawl i gael presgripsiynau am ddim, er gwaethaf y ffaith y byddent yn cael budd sylweddol ohonynt.

Mae presgripsiynau am ddim wedi dileu’r annhegwch hwn ac mae cannoedd o filoedd o gleifion nad oedd cyn hynny yn gymwys bellach yn cael budd o’r polisi.