Skip to content

Law yn Llaw at Iechyd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Law yn Llaw at Iechyd yw’r weledigaeth bum mlynedd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Mae’n seiliedig ar wasanaethau cymunedol gyda chleifion yn ganolog iddi, ac mae’n rhoi ansawdd, atal a thryloywedd wrth galon gofal iechyd.

Mae’r ddogfen yn amlinellu’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd, yn ogystal â’r camau y mae angen eu cymryd i wneud yn siŵr y gall ei berfformiad fod gyda’r gorau yn y byd.

Mae’r canlynol ymysg y ffactorau sydd y tu ôl i’r angen am newid:

  • poblogaeth hŷn sy’n cynyddu 
  • anghydraddoldebau iechyd 
  • cynnydd yn nifer y cleifion â chyflyrau cronig 
  • pwysau ar staff meddygol 
  • pwysau gormodol ar rai gwasanaethau arbenigol.

Mae’r ddogfen yn nodi sut bydd y GIG yn edrych mewn pum mlynedd, gyda gwasanaethau sylfaenol a chymunedol yn ganolog i’w ddarparu.

Dyma brif ymrwymiadau Law yn Llaw at Iechyd:

  • moderneiddio gwasanaethau, gan gynnwys darparu mwy o ofal yn agosach at y cartref a ‘chanolfannau rhagoriaeth’ arbenigol
  • taclo anghydraddoldebau iechyd
  • systemau TG gwell a strategaeth wybodaeth sy’n sicrhau gofal gwell i gleifion
  • gwella ansawdd gofal
  • datblygu’r gweithlu
  • sefydlu ‘compact â’r cyhoedd’ 
  • newid y gyfundrefn ariannol.