Skip to content

Fframwaith Canser y Perfedd i Gymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae canser y perfedd yn glefyd cyffredin yn Nghymru, gyda tua 2,000 o achosion newydd bob blwyddyn, a 1,000 yn marw ohono.

Mae nifer yr achosion o ganser y perfedd yn codi gydag oedran, sy'n golygu y bydd yn rhaid i'r GIG yng Nghymru gynllunio ar gyfer nifer cynyddol o gleifion canser y perfedd wrth i'r boblogaeth heneiddio. Mae gan Gymru gyfradd marwolaethau uwch na'r rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd ar gyfer y clefyd hwn, ac o fewn Cymru ei hun ceir amrywiaethau yn nifer yr achosion a chyfraddau marwolaethau. Mae angen inni fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn trwy dargedu a chyd-drefnu adnoddau, o waith atal hyd at waith trin y clefyd.

Mae'r ddogfen hon, drwy ystyried holl rychwant y gwaith o atal y clefyd hyd at ofal lliniarol, ynceisio ystyried materion dewis y cyhoedd a dewis cleifion o ran gwasanaethau gofal iechyd. Mae'n ategu'r Safonau Canser Cenedlaethol ar gyfer Canser y Colon a'r Rhefr, a gyhoeddwyd yn 2005.