Skip to content

Gosod y Cyfeiriad: Gwasanaethau Cychwynnol a Chymuned - Rhaglen Strategol ar Gyfer Cyflenwi

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae ‘Gosod y Cyfeiriad’ yn cydnabod yr ymrwymiad i ddarparu gofal iechyd integredig o'r radd flaenaf yng Nghymru. a bod angen newid y dull o ddatblygu'r modelau polisi a'r modelau darparu gwasanaethau ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol i wneud hyn.

Mae'r adroddiad yn cynnwys rhai argymhellion i ychwanegu at y cryfderau a'r datblygiadau y mae'r system gyfredol wedi elwa arnynt hyd yma, gan fynd i'r afael yn uniongyrchol â rhai o'r heriau presennol ar yr un pryd. Ymhlith yr Egwyddorion gwaelodol ar gyfer gwella mae:

  • Cofrestru pawb yn y boblogaeth a mynediad agored i wasanaethau sydd wedi’u trefnu’n effeithiol o fewn y gymuned
  • Y cysylltiad cyntaf â meddygon cyffredinol sy’n delio â phroblemau cyffredinol ac sy’n cael eu cefnogi gan dîm cymunedol integredig
  • Tîm gofal sylfaenol lleol sy’n gweithio i wasanaethu poblogaethau gwahanol
  • Ffocws ar atal, ymyrryd yn gynnar a gwella iechyd y cyhoedd ac nid ar driniaeth yn unig
  • Gofal cydgysylltiedig lle mae meddygon cyffredinol yn gweithio’n agos gydag arbenigwyr a chymorth ehangach yn y gymuned i atal iechyd gwael, lleihau dibyniaeth a thrin afiechyd yn effeithiol
  • Gweithlu hyfedr integredig
  • Iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio ar hyd pob rhan o daith y claf gan sicrhau bod y gwasanaethau’n hygyrch ac yn hawdd ymdopi â nhw.
  • Systemau gwybodaeth a chyfathrebu cadarn i helpu i wneud penderfyniadau effeithiol ac ennyn diddordeb y cyhoedd
  • Dinasyddion a'u gofalwyr yn cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau ar eu gofal a'u lles.

I gael copi caled, cysylltwch â CCMmailbox@wales.gsi.gov.uk