Skip to content

Gwrando a dysgu: Canllawiau ar ddelio â chwynion a sylwadau yng ngwasanaethau cymdeithasol llywodraeth leol yng Ngyhymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Arweiniad i wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar ymdrin â chwynion yn eu herbyn.

Mae gan bawb sy’n gwneud cwyn ynglŷn â’r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yr hawl i gael ei gymryd o ddifrif - ac i gael ateb buan ac effeithiol i’w bryderon. Bydd awdurdodau lleol da yn dymuno dysgu oddi wrth y pryderon hyn a defnyddio’r profiad er mwyn gwella gwasanaethau i bawb sy’n eu defnyddio.

Mae’r canllawiau hyn, “Gwrando a Dysgu”, yn gosod fframwaith newydd ar gyfer trin ac ystyried cwynion am awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cwynion am wasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. Y nod yw helpu awdurdodau i ddatblygu’r math o drefniadau sy’n gweddu orau i anghenion y cymunedau lleol y maent yn eu gwasanaethu.

Gofalwch

Mae a wnelo paragraffau 7.4. a 9.1 yn "Gwrando a Dysgu" â chanllawiau ar sut mae delio ag ymchwiliadau i gwynion a'u recordio. Maen nhw'n cyfeirio at Grwp Cenedlaethol Swyddogion Cwynion (NCOG) fel y corff sy'n darparu canllawiau ar yr arfer orau wrth ymchwilio i gwynion.

Grwp yn Lloegr yw NCOG ac oddi ar i'r ddogfen gael ei chyhoeddi mae Cymru wedi sefydlu Grwp Swyddogion Cwynion Cymru Gyfan. Mae'r grwp yma wrthi'n datblygu canllawiau tebyg ac fe fyddwn ni'n sicrhau eu bod ar gael i bawb cyn gynted ag y byddan nhw wedi cael eu cyhoeddi.