- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Rhaglen ASERT Iechyd Cymru
Mae'r acronym ASERT yn sefyll dros Asylum Seekers, Ethnic minorities, Refugees and Travellers
Gwnaed yr ymchwil rhwng mis Chwefror 2003 a mis Mawrth 2004.
Ystyr 'ASERT' yw Ceiswyr Lloches, Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig, Ffoaduriaid a Theithwyr.
Rhaglen ymchwil yw Rhaglen ASERT Iechyd Cymru i wella'r sylfaen dystiolaeth sydd ar gael ar faterion yn ymwneud â hybu iechyd ymysg Grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig, Ffoaduriaid/Ceiswyr lloches a Sipsiwn/Teithwyr.
Dyma oedd amcanion yr astudiaeth:
-
nodi unrhyw fylchau yn y sylfaen dystiolaeth bresennol o ran anghenion iechyd a materion hybu iechyd y grwpiau astudio
-
nodi arferion da sydd eisoes yn bodoli o fewn gwasanaethau iechyd a dulliau o hybu iechyd sy'n bodoli o fewn y grwpiau astudio
-
archwilio ffyrdd o ddarparu polisïau/rhaglenni iechyd sy'n targedu'r grwpiau hyn mewn dull sy'n sensitif i'w diwylliant a'u cymdeithas;
-
nodi materion sydd angen ymchwil pellach.
Cyswllt HPDR&E@cymru.gsi.gov.uk
Contractwyr:
Canolfan ar gyfer Astudiaethau i Wasanaethau Iechyd, Prifysgol Caint, Caergaint (dolen allanol)
25/01/08
Mae'r adroddiad hwn yn manylu ar ganfyddiadau prif elfen ansoddol y rhaglen.
25/01/08
Dyma grynodeb o'r adroddiad llawn ar y prif waith ymchwil.
19/06/07
Yn yr adroddiad hwn, mae manylion y dulliau a ddefnyddir ar hyn o bryd yng Nghymru i gasglu data ynghylch ethnigrwydd ym meysydd iechyd a gofal.
15/01/07
Mae diffyg gwybodaeth gadarn ynghylch maint, dosbarthiad ac o ba wledydd mae'r ceiswyr lloches a'r ffoaduriaid sy'n byw yng Nghymru yn hanu.
24/07/06
Mae'r adolygiad yn ysytired dulliau ymyrryd priodol mewn gofal iechyd
19/05/06
Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ddulliau ymyrryd priodol mewn gofal iechyd.
01/05/05
Nod yr astudiaeth hon oedd gwella'r sylfaen dystiolaeth sydd ar gael ar faterion yn ymwneud â hybu iechyd ymysg grwpiau lleiafrifoedd ethnig, ffoaduriaid/ceiswyr lloches a Sipsiwn/Teithwyr yng Nghymru.
