- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Adolygiad o'r deunydd darllen sydd ar gael ynghylch credoau iechyd, y statws a'r defnydd a wna'r boblogaeth Sipsiwn/Teithwyr o wasanaethau.
Dolenni perthnasol
Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ddulliau ymyrryd priodol mewn gofal iechyd.
Nid oes llawer o gofnodion ynghylch cyflwr iechyd y grŵp hwn ac mae diffyg tystiolaeth gadarn.
Fodd bynnag, mae'r data sydd ar gael yn dameidiog ac mae'n awgrymu bod hyd bywyd disgwyliedig y grŵp hwn yn fyrrach na'r cyfartaledd ac mae nifer y marwenedigaethau, marwolaethau amenedigol a marwolaethau ymysg babanod a Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod yn uwch na'r cyfartaledd.
Hefyd, dengys tystiolaeth lefelau uchel o orbryder ac iselder. Mae tlodi a sefyllfa economaidd-gymdeithasol isel wedi cael effaith fawr ar iechyd poblogaeth y Sipsiwn/Teithwyr.
