Skip to content

Deddf Safonau Gofal 2000

Darparu manylion am y trefniadau diweddaraf sy’n llywodraethu rheoliadau a’r safonau gofynnol cenedlaethol i ddarparwyr gofal.

Mae Deddf Safonau Gofal 2000 yn moderneiddio’r trefniadau ar gyfer rheoleiddio ac yn sicrhau safonau drwy un corff rheoli a thegwch ar gyfer darparwyr. Mae manteision sylweddol yn sgil y Ddeddf i bobl sy’n derbyn gwasanaethau gofal ble bynnag y cânt eu darparu a phwy bynnag sy’n eu darparu.

Y Rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Mae’r rheoliadau a’r safonau gofynnol cenedlaethol cysylltiedig yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr y gwasanaethau ac ymgynghori eang â phawb sy’n gysylltiedig. Dyma ddiben y safonau cenedlaethol hyn:

  • darparu safonau gofynnol fel na fydd unrhyw ddarparwr yn cynnig llai na hynny;
  •  sicrhau diogelwch y preswylwyr;
  • diogelu a hyrwyddo iechyd, lles ac ansawdd bywyd y preswylwyr; a
  •  darparu safonau sy’n gadarn, yn fesuradwy ac yn rhai y gellir eu gorfodi er mwyn sicrhau y caiff y nodau hyn eu gwireddu.

Mae’r rheoliadau a’r safonau yn diogelu ac yn hyrwyddo iechyd a lles defnyddwyr y gwasanaethau ond hefyd o fudd i ddarparwyr. Maent yn sicrhau bod y safonau cyffredin yn cael eu defnyddio yn gyson ac yn deg ar draws y sector gofal, i’r cartrefi gofal yn y sector cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd, gan gorff rheoleiddio annibynnol.

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn rheoleiddio y canlynol:

  • cartrefi gofal ar gyfer oedolion – gan gynnwys cartrefi gofal sydd â chyfleusterau nyrsio;
  • asiantaethau gofal cartref;
  • cynlluniau lleoli oedolion;
  • asiantaethau nyrsio;
  • cartrefi plant;
  • gwasaaethau gofal dydd ar gyfer plant – gwarchodwyr plant, gofal dydd cyflawn, gofal dydd sesiynol, gofal y tu allan i oriau ysgol, crèches a darpariaeth chwarae mynediad agored;
  • asiantaethau maethu yn y sector cyhoeddus a'r sector annibynnol;
  • asiantaethau mabwysiadu yn y sector cyhoeddus ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol;
  • ysgolion preswyl, ysgolion preswyl arbennig a cholegau addysg bellach sy'n derbyn myfyrwyr o dan 18 oed; a 
  • canolfannau preswyl ar gyfer teuluoedd.

Rôl AGGCC yw asesu a yw’r gwasanaethau hyn yn cynnig y safon y mae gan bobl Cymru yr hawl i’w disgwyl. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru