Skip to content

Codi Tâl am Wasanaethau Cymdeithasol

Dolenni perthnasol

Arweiniad newydd ar gyfer awdurdodau lleol.

Talu am wasanaethau cymdeithasol dibreswyl.

Rhaid i’r cyngor lleol asesu pob unigolyn sydd am gael gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl (fel gofal yn y cartref neu ofal dydd). Gwneir hyn i weld a yw anghenion gofal yr unigolyn yn bodloni meini prawf cymhwysedd y cyngor o ran darparu’r gwasanaethau hyn. Os felly, bydd y cyngor wedyn yn darparu’r gwasanaethau neu’n trefnu i ddarparwr gwasanaethau annibynnol wneud hynny.

Mae deddfwriaeth newydd (Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010) yn rhoi pŵer i gynghorau lleol benderfynu yn ôl disgresiwn ynghylch codi tâl am y gwasanaethau hyn.

Caiff cynghorau bennu ffioedd sydd yn eu barn nhw yn rhai rhesymol. Er mwyn sicrhau cysondeb yn y modd y mae’r cynghorau’n defnyddio’u disgresiwn, a chreu trefniadau i ddiogelu’n ariannol y bobl sydd ar incwm isel, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rheoliadau fel rhan o’r mesur.

O ganlyniad, os bydd cyngor yn penderfynu codi tâl ar oedolion am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl, rhaid i’r cyngor ddilyn gweithdrefnau penodol, sef:

  • os yw cyngor yn bwriadu codi ffi, rhaid gwahodd unigolion sy’n cael gwasanaethau am y tro cyntaf i gael asesiad o fodd (sef asesiad ariannol). Hefyd os yw cyngor yn bwriadu newid y ffi, neu os oes newid yn y gwasanaeth a dderbynnir neu yn sefyllfa ariannol unigolyn, rhaid i’r cyngor wahodd y bobl berthnasol sydd eisoes yn defnyddio gwasanaethau i gael asesiad;
  • rhaid i gyngor gynnal yr asesiad uchod os bydd defnyddiwr gwasanaethau yn gofyn iddo wneud hynny ac yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol;
  • ni chaiff cynghorau godi tâl am rai gwasanaethau penodol, gan gynnwys cludiant i fynychu gwasanaeth dydd, lle mae mynychu’r gwasanaeth a’r cludiant iddo yn rhan o’r gwasanaethau y cytunwyd ar eu darparu;
  • hefyd, ni chaiff cynghorau godi tâl am ddarparu gwybodaeth am eu gwasanaethau neu am y ffioedd a bennir ar eu cyfer. Yn ogystal, ni chaiff cynghorau godi tâl am asesu anghenion gofal neu gynnal asesiadau modd;
  • wrth bennu ffioedd, rhaid i gynghorau ganiatáu i ddefnyddwyr gwasanaethau gadw o leiaf swm eu Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Gwarant Credyd Pensiwn plws 35% o’r swm hwnnw. Rhaid iddynt hefyd ganiatáu i ddefnyddwyr gwasanaethau gadw 10% arall ar ben hynny fel cyfraniad at eu costau byw bob dydd a allai fod yn uwch oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol;
  • wrth gyfrifo, ni chaiff cynghorau gynnwys unrhyw arian y mae’r defnyddiwr gwasanaethau yn ei ennill;
  • ni chaiff cynghorau bennu ffioedd sy’n uwch na £50 yr wythnos ar gyfer yr holl wasanaethau y mae defnyddiwr gwasanaethau yn eu derbyn (ac eithrio pan fyddant yn codi cyfradd safonol am wasanaeth megis prydau bwyd);
  • rhaid i gynghorwyr weithredu cynllun sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gwasanaethau  ofyn i’r cyngor adolygu’r ffioedd a bennwyd.

Daeth y rhain i gyd i rym o 11 Ebrill 2011.