Skip to content

Gofal preswyl

Dolenni perthnasol

Arweiniad ar yr hyn y bydd angen i chi ei wybod am ddod o hyd i’r cartref gofal priodol.
Mae’r terfyn cyfalaf unigol, sy’n rhan o’r asesiad ariannol ar gyfer y sawl sydd eisiau derbyn llety preswyl, wedi’I godi I £23,250 o Ebrill 9 2012 ymlaen.
Mae’r terfyn cyfalaf unigol, sy’n rhan o’r asesiad ariannol ar gyfer y sawl sydd eisiau derbyn llety preswyl, wedi’I godi I £22,500 o Ebrill 11 2011 ymlaen.
O Ebrill 12fed 2010ymlaen diddymiry terfyn cyfalaf is a fu’n rhan o’r aesiad ariannol ar gyfer llety prewyl.

O dan Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, mae disgwyl i awdurdodau lleol drefnu darpariaeth ar gyfer gofal preswyl i’r unigolion hynny sydd, o gael eu hasesu, eisiau gofal o’r math hwn ac sy’n diwallu meini prawf yr awdurdod lleol ar gyfer hyn.

Gan ddibynnu ar anghenion yr unigolyn, gall hyn fod yn gartref preswyl neu gartref nyrsio. Gellir trefnu’r cartref preswyl trwy’r awdurdod lleol ei hun neu trwy ddarparwr annibynnol.

Awdurdodau Lleol

Dan Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, mae disgwyl hefyd i awdurdodau lleol godi tâl am lety a gofal personol y maent yn ei drefnu.  Y nod yw adennill cymaint â phosibl o’r gost, pa un ai’n uniongyrchol neu mewn cartref annibynnol y bydd hyn yn cael ei ddarparu.

Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr awdurdodau lleol i asesu a chomisiynu’r llety a’r gofal personol sydd ei angen ar unigolyn. O ganlyniad, cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw penderfynu ar lefel y ffioedd y bydd yn eu talu am y gwasanaethau hyn.  Defnyddir nifer o ffactorau i benderfynu ar lefel y ffioedd:

  • anghenion y preswylwyr o ran yr hyn y maent yn dibynnu arno
  • lleoliad a chyfleusterau’r cartref
  • costau cynnal a chadw'r cartref.

Arweiniad ar Godi Tâl am Lety Preswyl (CRAG)

I sicrhau bod egwyddorion yr awdurdodau lleol ar godi ffioedd preswyl yn gyson, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi i'r awdurdodau Arweiniad ar Godi Tâl am Lety Preswyl.  Mae’n amlinellu ar ba sail y dylai’r awdurdodau lleol godi tâl ond nid yw’n amlinellu lefel y taliadau hynny.  O dan y canllaw, mae’r cyfraniad y mae’r unigolyn yn ei wneud tuag at gostau llety preswyl a gofal personol yn cael ei asesu yn ôl incwm (gan gynnwys unrhyw fudd-daliadau a phensiynau) a chyfalaf (fel cynilion, buddsoddiadau a gwerth yr eiddo y maent yn berchen arno).  Felly, bydd awdurdod lleol pob preswylydd yn cynnal asesiad ariannol i amcangyfrif eu sefyllfa ariannol a lefel y taliadau y dylent eu gwneud.  Gellir dod o hyd i’r fersiwn ddiweddaraf o CRAG trwy’r ddolen ganlynol:

Y Terfyn Cyfalaf

Wrth ymgymryd â’r asesiad, bydd yr awdurdodau lleol yn defnyddio un terfyn cyfalaf a bennir gan Lywodraeth Cymru i benderfynu ar lefel y cymorth ariannol y mae’r preswylydd yn gymwys i’w gael gan yr awdurdod lleol.  Disgwylir i’r preswylwyr sydd â chyfalaf sydd yn fwy na’r terfyn dalu’r gost yn llawn am lety a gofal personol gan ddefnyddio eu harian personol. Bydd preswylwyr sydd â chyfalaf sydd islaw’r terfyn yn cael y cymorth ariannol mwyaf posib gan eu hawdurdod a dim ond yr incwm y bydd yr asesiad ariannol yn penderfynu ei bod yn briodol iddynt ei dalu y byddant yn ei gyfrannu.   Mae’r terfyn cyfalaf yn cael ei gyhoeddi yn CRAG ac yn cael ei adolygu ym mis Ebrill bob blwyddyn.

Wrth amcangyfrif taliadau’r preswylydd, rhaid i’r awdurdodau lleol ganiatáu i’r preswylwyr gadw peth o’u hincwm wythnosol ar gyfer costau personol a elwir yn Lwfans Treuliau Personol (PEA).  Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu ar y PEA ac mae wedi cael ei amlinellu yn CRAG.  Mae’r PEA yn cael ei gynyddu ym mis Ebrill bob blwyddyn.