Skip to content

Oedolion ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig

Dolenni perthnasol

Adroddiad y gynhadledd oedolion ag awtistiaeth a gynhaliwyd ar 10 a 11 Mehefin 2010.
Bydd y Cynllun Gweithredu Strategol i Gymru ar gyfer Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig (ASD) yn gyrru gwelliannau ar draws gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion

Ein dull gweithredu ar gyfer oedolion ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASA) yw datblygu a gwella gwasanaethau er mwyn iddynt gyflawni'u potensial llawn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella’r systemau cymorth a’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer oedolion ag ASA.

Ym mis Ebrill 2008, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig. Roedd yn nodi'r cymorth y byddai pobl ag ASA yn ei gael a sut i sicrhau bod y gwasanaethau cymorth a ddarperir gan amryfal gyrff yn cael eu darparu mewn modd priodol a chydgysylltiedig.

Grŵp Gorchwyl a Gorffen ASA

Roedd un o’r camau gweithredu allweddol yn y ddogfen yn ymwneud â sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Ei ddiben oedd nodi materion penodol sy’n wynebu oedolion ag ASA ac awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â’r materion hynny drwy ymchwilio i’r dystiolaeth, gwerthuso’r dystiolaeth honno a chyflwyno adroddiad yn ei chylch.

Ymhlith aelodau’r grŵp roedd cynrychiolwyr awdurdodau lleol, y GIG, y sector gwirfoddol a swyddogion Llywodraeth Cymru. Bu’r Grŵp yn ystyried pum maes allweddol, ac yn cyflwyno argymhellion yn eu cylch:

  • Diagnosis;
  • Cael gafael ar wasanaethau;
  • Cymorth yn y gymuned a chymorth i fonitro;
  • Cyflogaeth a materion cysylltiedig;
  • Tai.

Cyflwynodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ei adroddiad i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2009.

Ym mis Chwefror 2010, rhoddodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol amlinelliad o sut oedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu’r argymhellion.

Meysydd eraill i'w trafod

Gofynnwyd i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ystyried rhai meysydd eraill y mae angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru eu hystyried gan gynnwys:

  • Anghenion iechyd meddwl pobl ag ASA, a pha mor hawdd yw cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl;
  • Mynd i’r afael â chanfyddiadau’r gwaith ymchwil i bobl hŷn ag ASA, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cymru;
  • Oedolion ag ASA a’r System Cyfiawnder Troseddol;
  • Y goblygiadau sy’n codi i’r rheini ag ASA yng Nghymru sy’n deillio o Ddiwygiadau Lles yr Adran Gwaith a Phensiynau;
  • Addysg Bellach ac Uwch.

Pobl hŷn ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig

Cam gweithredu allweddol arall yng Nghynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer ASA oedd comisiynu gwaith ymchwil i nifer yr achosion ASA mewn pobl hŷn yng Nghymru ac anghenion y bobl hynny. Cynhaliwyd yr ymchwil hon gan Brifysgol Bangor a Morgannwg.

Cyhoeddwyd eu hadroddiad ymchwil, “The Circumstances and Support Needs of Older People with Autism”, ym mis Chwefror 2010.