Skip to content

Oedolion ag anableddau dysgu

Dolenni perthnasol

Nod yr adroddiad yw diffinio arfer gorau a gwella canlyniadau iechyd i bobl ag anabledd dysgu sy’n aros yn yr ysbyty.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gomisiynu gwasanaethau ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu.
Adnodd yw'r restr gyfeirio a ddefnyddir i weld pa gamau sydd yn eu lle ac sy'n gweithio'n dda i bobl sydd ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol mewn ardaloedd lleol.
Mae'r cyfarwyddyd sydd ynghlwm yn egluro'r egwyddorion gwasanaeth a'r ymatebion gwasanaeth y dylai awdurdodau eu mabwysiadu ar gyfer oedolion a phobl hŷn ag anableddau dysgu.

Mae pobl ag anabledd dysgu ymhlith y grwpiau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wella’u cyfleoedd mewn bywyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r dulliau a'r egwyddorion sydd wrth wraidd 'Strategaeth Cymru Gyfan i Ddatblygu Gwasanaethau i Bobl dan Anfantais Meddwl' a gyhoeddwyd ym 1993 a'r ddogfen ddiwygiedig, 'Arweiniad i  Strategaeth Anfantais Feddyliol Cymru' a gyhoeddwyd ym 1994. 

Polisi ac Arferion i Oedolion sydd ag Anabledd Dysgu

Yn 2007, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad newydd ar Bolisi ac Arferion i Oedolion sydd ag Anableddau Dysgu.  Mae'r datganiad hwn yn disodli canllaw strategol blaenorol ac mae'n atgyfnerthu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol sydd wedi'i seilio ar y datganiad canlynol o egwyddorion:

Mae pawb sydd ag anabledd dysgu yn ddinasyddion cyflawn, maent yn gyfartal â dinasyddion eraill o'r un oed o ran statws a gwerth.  Mae ganddynt yr un hawliau i:

  • fyw bywydau iach, cynhyrchiol ac annibynnol gan dderbyn y driniaeth sy'n addas iddynt ac sy'n ymateb orau iddynt ac i gael cymorth i ddatblygu hyd eithaf eu potensial;
  • bod yn unigolion sy'n penderfynu dros eu hunain ar faterion o ddydd i ddydd a materion sy'n diffinio eu bywydau a chymryd rhan yn y broses o benderfynu sy'n effeithio ar eu bywydau gan dderbyn cyngor a chefnogaeth addas ac ymatebol pan fo angen;
  • byw eu bywydau o fewn eu cymuned, gan feithrin cysylltiadau cymdeithasol a chysylltiadau gyda'u teuluoedd sy'n bwysig iddynt;
  • cael cefnogaeth y cymunedau y maent yn rhan ohonynt a bod o fewn cyrraedd gwasanaethau cyffredinol a gwasanaethau arbenigol sy'n ymateb i'w hanghenion unigol, eu hamgylchiadau ac i'r hyn sydd orau ganddynt. 

Adran 7 Canllaw i Egwyddorion Gwasanaeth a'r Ymatebion Gwasanaeth

Ym mis Awst 2004, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Adran 7 y Canllaw i Egwyddorion y Gwasanaeth ac Ymatebion y Gwasanaeth i awdurdodau.  Mae'r canllaw yn amlinellu egwyddorion ac ymatebion y gwasanaeth y dylai awdurdodau lleol eu defnyddio yn sgil materion sy'n effeithio ar fywydau oedolion a phobl hŷn sydd ag anableddau dysgu.  Dyma'r materion: 

  • dulliau o ganolbwyntio ar yr unigolyn wrth greu cynlluniau unigol;
  • darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr a gofalwyr;
  • eiriolaeth;
  • gweithio gydag adrannau eraill; 
  • byw yn y gymuned;
  • cyflogaeth, addysg bellach a gweithgareddau dydd;
  • anghenion iechyd cyffredinol;
  • anghenion iechyd cymhleth; a 
  • pobl sydd ag ymddygiad herfeiddiol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau fod pobl sy'n aros am gyfnodau hir mewn ysbytai i bobl sydd ag anableddau dysgu heb fod angen yn cael eu hailsefydlu mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yn eu cymunedau.

Datblygiadau diweddaraf

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ysbyty yn Nhrelái, Caerdydd ac ysbyty Hensol ym Mro Morgannwg wedi cwblhau eu rhaglenni ailsefydlu ac wedi cau.  Mae ysbyty Llanfrechfa Grange yn Nhor-faen wedi cwblhau ei raglen ailsefydlu gofal cymdeithasol ac mae gwasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) sy'n cael eu darparu yn yr ysbyty yn cael eu trosglwyddo i'r gymuned cyn i'r ysbyty gau.  Mae'r broses o weithredu'r rhaglen olaf ar gyfer ailsefydlu gofal cymdeithasol ar gyfer ysbyty Bryn-y-Neuadd yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru yn mynd ymlaen yn dda a dylai gael ei chwblhau yn ystod 2009-10.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Cynghori ar Weithredu ym maes Anabledd Dysgu allanol i roi cyngor ac arweiniad i Weinidogion ar yr ystod lawn o faterion sy'n effeithio ar fywydau oedolion ag anabledd dysgu. Mae'r aelodau'n dod o awdurdodau statudol, y sector gwirfoddol a'r byd academaidd, ac mae hefyd yn cynnwys pobl ag anabledd dysgu.

Mae Is-grŵp Ymddygiad Heriol ac Iechyd Meddwl y Grŵp Cynghori ar Weithredu ym maes Anabledd Dysgu wedi llunio dogfen dan y teitl ‘Self-Assessment Checklist for Monitoring Services for People with Learning Disability and Challenging Behaviour’.  Fe’i bwriadwyd ar gyfer comisiynwyr a darparwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae modd cael rhagor o wybodaeth oddi ar wefan Grŵp Cynghori ar Weithredu ym maes Anabledd Dysgu (Saesneg yn unig)