Skip to content

Teleofal

Dolenni perthnasol

Mae cyfarwyddiadau ar gyfer datblygu ac integreiddio gwasanaethau cyfarpar cymunedol yng Nghymru wedi cael eu cynhyrchu yn dilyn ymgynghoriad yn 2008.

Mae teleofal yn ffordd o ddarparu gofal a chymorth sy'n dod yn fwyfwy pwysig, ac sy'n defnyddio telathrebu a thechnoleg yn y cartref.

I gael rhagor o wybodaeth am deleofal a'r gwaith o'i ddatblygu yng Nghymru yn bennaf, ewch i wefan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol 

Mae teleofal yn defnyddio synwyryddion a theclynnau awtomatig i fonitro lles person o bell, sydd o ganlyniad, yn cyfrannu at iechyd pobl, eu gallu i symud o fan i fan, eu lles cymdeithasol a'u diogelwch.

Mae synwyryddion teleofal yn declynnau sy'n weddol syml o ran eu technoleg ac yn rhad i'w prynu. Maent yn cynnwys:

  • synwyryddion mwg a gwres;
  • synwyryddion llifogydd;
  • synwyryddion carbon monocsid; a
  • ynghyd â synwyryddion symudiad is-goch goddefol.

Sydd wedi'u cysylltu i ganolfannau galw y larymau cymunedol, drwy'r system llinell ofal. Maent yn 'systemau goddefol', sy'n golygu nad oes oes angen i'r defnyddiwr gychwyn y system mewn unrhyw ffordd, bydd unrhyw weithred a fydd yn arwain at sefyllfa a ystyrir yn risg annerbyniol yn ddigon i ysgogi'r system i ymateb yn awtomatig. Yn dilyn hyn bydd y ganolfan alw yn gallu siarad yn uniongyrchol â'r person, yn gallu asesu'r sefyllfa a rhoi cyngor neu anfon cymorth yn ôl y gofyn.

Mae teleofal yn cynnig diogelwch, cymorth pan fydd angen a phreifatrwydd ar adegau eraill.

Mae defnyddio technoleg yn y ffordd briodol wrth ddarparu gofal yn ddibynnol ar anghenion ac ni ddylid ei defnyddio yn lle cyswllt personol. Mae arferion da teleofal yn cynnwys defnyddio technoleg i ddarparu cymorth ychwanegol a rhoi sicrwydd a sicrhau bod staff yn gallu treulio mwy o amser yn darparu gofal.