Skip to content

Ceiswyr lloches a ffoaduriaid

Dolenni perthnasol

Mae'r Cynllun Gweithredu yn amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n cyflawni ei hymrwymiadau mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hwn wedi’i lunio mewn ymateb i’r diffyg gwybodaeth hwn er mwyn llywio polisi ac arfer mewn perthynas â chydlyniant cymunedol ac integreiddio Ffoaduriaid.
Nod cyffredinol y strategaeth gynnwys yw cynorthwyo a galluogi ffoaduriaid i ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru a chyfrannu'n llawn at gymdeithas.
Dwylo yn dal y byd.
Mae gan bobl sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth yr hawl i gael lloches, ac rydym yn falch o roi noddfa iddynt yng Nghymru. Rydym am eu helpu i ddechrau bywydau newydd ac i gyfrannu'n llawn i gymdeithas.

Nid ydym yn gyfrifol am y polisi ar fewnfudo a rhoi lloches. Mae'r materion hyn yn rhai sydd heb eu datganoli a chyfrifoldeb y Swyddfa Gartref ydynt ar ran Llywodraeth y DU. Serch hynny, ni sy'n gyfrifol am lawer o'r polisïau a'r gwasanaethau yng Nghymru a all helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Byddwn yn cydweithio â'n partneriaid i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ein cymunedau. Dyma sut y byddwn yn mynd ati i wneud hyn:

  • Gwella ffyrdd o gyfathrebu – meithrin sgiliau iaith a darparu mwy o gyfleusterau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd priodol.
  • Creu cymunedau cryf – drwy feithrin dealltwriaeth rhwng ceiswyr lloches a ffoaduriaid a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt.
  • Rhoi cyfle gwell iddynt ddod o hyd i waith ac i fanteisio ar hyfforddiant.
  • Sicrhau eu bod yn cael yr un cyfle â phawb arall i gael gafael ar wasanaethau craidd - rhoi help i ffoaduriaid ac i geiswyr lloches gael gafael ar y gwasanaethau y mae ganddynt yr hawl iddynt.