Skip to content

Ystadegau Gwladol

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sy'n darparu'r prif ffynhonnell o wybodaeth am ystadegau poblogaeth.

Cynhaliwyd y cyfrifiad diwethaf ganddynt yn 2001 ac mae'r gwaith eisoes wedi dechrau ar gyfer datblygu cyfrifiad 2011. Mae'r cyfrifiad yn darparu gwybodaeth am bob person ac aelwyd yng Nghymru a Lloegr. Er bod y cyfrifiad yn darparu gwybodaeth ddemograffig fanwl ar lefel Awdurdodau Lleol a lefel ddaearyddol (ardaloedd cynnyrch ehangach) haen is, mae cymaint o newidiadau sylweddol wedi digwydd ers 2001 fel nad yw'r cyfrifiad yn ddiweddar bellach ac nid yw o ddefnydd wrth geisio deall gwneuthuriad ardal benodol at ddibenion cydlyniant cymunedol. Argymhellwyd gan yr Asiantaeth Gwella a Datblygu ar gyfer Llywodraeth Leol bod angen defnyddio ffynonellau eraill pan fydd y cyfrifiad yn hen.