Skip to content

Ymchwil

Dolenni perthnasol

Grantiau ar gyfer prosiectau ymchwil bach
Mae ymchwil gymdeithasol yn llywio'r broses o weithredu polisïau, yn dangos beth y mae pobl yn ei feddwl amdanynt ac yn ein helpu i ddeall y canlyniadau.
papur amlinelliad o’r prosiect
Mae ymchwil yn sylfaenol i'r gwaith sy'n cael ei wneud ym maes cydlyniant cymunedol. Mae gwaith ymchwil da yn ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio a pham ei fod yn gweithio. Gyda'r wybodaeth hon gallwn ddatblygu gwell ffyrdd o fynd i'r afael â'r materion dyrys sy'n ein hwynebu yng Nghymru.



Rydym yn cynhyrchu ein gwaith ymchwil mewn tair ffordd, sef drwy:

  • roi grantiau i sefydliadau er mwyn iddynt wneud ymchwil ar bynciau a gynigiwyd ganddyn nhw (y Gronfa Syniadau Newydd)
  • comisiynu a thalu sefydliadau i wneud ymchwil ar bynciau a bennwyd gennym ni (comisiynu)
  • trefnu bod yr ymchwil yn cael ei wneud gan swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru (mewnol).

Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i'n Cymunedau

Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i'n Cymunedau

31/03/08
Nod yr ymchwil hwn yw casglu tystiolaeth ystadegol o’r gwasanaethau y mae cymunedau ffydd yn eu darparu ar gyfer eu cymunedau ehangach. Mae’n canolbwyntio ar y gwasanaethau y mae cymunedau ffydd yn eu cynnig i’r gymuned ehangach trwy eu gwirfoddolwyr a’u staff cyflogedig, a’r ystafelloedd ac adeila ...
 

Creu cymunedau mwy diogel lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi

21/01/08
Mae'r ymchwil hwn yn archwilio'r ffactorau risg y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth dyfu i fyny yn y gwahanol gymunedau ac ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a'r ffactorau sy'n eu hamddiffyn rhag y risgiau hyn. Nod yr ymchwil yw ennyn gwell dealltwriaeth o'r gwahaniaethau a ...
 

Cydweithio tuag at gynhwysiant ym maes tai

14/10/07
Nod yr adroddiad hwn yw ceisio dysgu o syniadaeth gyfoes ac o enghreifftiau o arferion da o gydweithio yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU. Yn fwy na dim, mae'r adroddiad yn trafod y trefniadau cydweithio yng Nghaerdydd er mwyn cynllunio ar gyfer cynhwysiant ym maes tai, fel y Polisi Allg ...
 
Pobl, Cynlluniau a Phartneriaethau - Gwerthusiad Cenedlaethol o Strategaethau Cymunedol yng Nghymru

Pobl, Cynlluniau a Phartneriaethau - Gwerthusiad Cenedlaethol o Strategaethau Cymunedol yng Nghymru

15/07/07
Comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru werthusiad cenedlaethol o effeithiolrwydd y cylch cyntaf o strategaethau cymunedol yng Nghymru, sef 'Pobl, Cynlluniau a Phartneriaethau: Gwerthusiad Cenedlaethol o Strategaethau Cymunedol yng Nghymru'.
 
Dod o hyd i dir cyffredin

Dod o hyd i dir cyffredin

23/04/07
Ymchwil sy'n nodi'r dulliau mwyaf llwyddiannus o ddatrys gwrthdaro ymysg cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd ac ym Mro Morgannwg.
 

Adroddiad ar y Prosiect Llais Menywod Mwslimaidd Cymru

30/06/06
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i sicrhau ei bod yn ymgysylltu â'r holl gymunedau yng Nghymru, ac yn gwrando arnynt.
 
Anghenion Llety Sipsiwn-Teithwyr yng Nghymru - Arolwg o Gyflwr Ffisegol

Anghenion Llety Sipsiwn-Teithwyr yng Nghymru - Arolwg o Gyflwr Ffisegol

29/06/06
Fel rhan o'r ymchwil i 'Anghenion Llety Sipsiwn-Teithwyr yng Nghymru', cynhaliodd y Ganolfan Astudiaethau Trefol a Rhanbarthol (CURS) ym Mhrifysgol Birmingham a Plus Property Solutions arolwg amgylchiadau ffisegol ar 20 o safleoedd Sipsiwn-Teithwyr ledled Cymru er mwyn asesu natur, ffur ...
 
Anghenion llety Sipsiwn-Teithwyr yng Nghymru

Anghenion llety Sipsiwn-Teithwyr yng Nghymru

02/04/06
Ym mis Rhagfyr 2004, comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru'r Ganolfan Astudiaethau Trefol a Rhanbarthol ym Mhrifysgol Birmingham, i wneud ymchwil i anghenion llety Sipsiwn-Teithwyr yng Nghymru er mwyn cyfrannu at ddatblygu polisi. Cododd yr ymchwil o gyfres o argymhellion yn adroddiad Pwyllgo ...