Skip to content

Grant Tai Cymdeithasol

Dolenni perthnasol

Mae cynllun Gofal Ychwanegol Plas Telford wedi bod yn bosibl oherwydd Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru o £4.7 miliwn tuag at y cynllun hwn sy’n werth £9.7 miliwn.
Canllawiau ar gostau derbyniol ar gyfer cynlluniau dan y Grant Tai Cymdeithasol.
Yn ganllaw i awdurdodau lleol mewn perthynas ag ailgyflwyno’r cynllun Cymorth Prynu Dewis Eich Hun a ariennir drwy’r Grant Tai Cymdeithasol.
Rhoddir y Grant Tai Cymdeithasol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (cymdeithasau tai) gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r grant yn cynorthwyo'r cymdeithasau tai i ddarparu tai fforddiadwy newydd i'w rhentu neu i'w prynu am gost isel.

Mae'r Grant Tai Cymdeithasol yn ariannu cynlluniau tai sy'n diwallu anghenion a blaenoriaethau lleol sydd wedi cael eu pennu gan yr awdurdodau lleol. Ers yr 1980au, mae'r holl dai cymdeithasol newydd wedi cael eu darparu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac un o'r rhesymau am hynny yw bod gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig y gallu i ddod o hyd i arian preifat sy'n eu galluogi i gyfrannu tuag at gostau cynlluniau newydd.

Gellir defnyddio'r Grant Tai Cymdeithasol i ddarparu tai fforddiadwy newydd i'w rhentu neu i'w prynu am gost isel un ai trwy adeiladu tai newydd neu ddefnyddio adeiladau sy'n bodoli'n barod. Gellir defnyddio'r Grant Tai Cymdeithasol i gynorthwyo gyda'r canlynol:

  • cynlluniau i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy sydd ar gael i'w rhentu;
  • cynlluniau i bobl hŷn gan gynnwys cynlluniau Extracare;
  • y Cynllun Cymorth Prynu - cynllun i gynorthwyo pobl i brynu eu cartrefi; 
  • cynlluniau i fynd i'r afael a thai â galw isel ac i gefnogi adfywio cymunedol; 
  • cynlluniau i bobl y mae arnynt angen cymorth i fyw'n annibynnol.