- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau Yn Gyntaf
Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf yn rhoi grantiau bach i fudiadau cymunedol a gwirfoddol bach mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.
Y cynllun
Caiff y Gronfa hon a ddarperir gan y Cynulliad ei rheoli gan Rwydwaith Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf a’i gweinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Diben y cynllun yw cefnogi unrhyw weithgareddau sy’n cynnwys pobl leol, trwy fudiadau cymunedol bach, ac sy’n fanteisiol i’w cymuned. Rhaid sicrhau bod rhywfaint o fudd economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol neu ddiwylliannol yn deillio o’r gweithgareddau i bobl sy’n byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf.
O dan y Gronfa, bydd pob un o’r 100 adran etholiadol fwyaf difreintiedig, fel y’u nodir ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, a 10 Cymuned Fuddiant/Cynnig Dychmygus yn cael £20,000 ym mhob blwyddyn ariannol. Bydd 32 o ardaloedd difreintiedig o fewn wardiau yn cael £10,000 ym mhob blwyddyn ariannol.
O ganlyniad i Fynegai Amddifadedd Lluosog diwygiedig Cymru 2005, gwnaeth 46 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is gais i ddod yn Ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Ar ôl eu derbyn i’r Rhaglen, bydd pob Ardal yn cael £5,000 ym mhob blwyddyn ariannol.
Ni fydd ceisiadau am fwy na £5,000 yn cael eu hystyried ac ni fydd unrhyw grŵp yn gymwys i gael mwy na £5,000 mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Mae’n bosibl rhoi grantiau o gymaint â 100%, ond anogir grwpiau i wneud cais am beth o’r arian sydd ei angen arnynt ar gyfer prosiect ac i geisio’r gweddill o ffynonellau eraill. Ni fydd grwpiau yn gymwys i wneud cais am grant arall o’r Gronfa Ymddiriedolaeth nes eu bod wedi cyfrif am eu grant diwethaf.
Meini Prawf Cymhwyso
Gall grwpiau wneud cais:
- os ad ydynt yn grwpiau sy’n gwneud elw;
- os ydynt yn gweithio mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf ac yn cynnwys pobl o’r ardal honno; os ydynt yn gweithio y tu allan i’r ardal, rhaid i’r gweithgarwch fod o fudd uniongyrchol i’r ardal Cymunedau yn Gyntaf;
- os oes ganddynt gyfansoddiad neu reolau, a’r Cadeirydd neu uwch swyddog arall wedi’u dyddio a’u llofnodi i ddangos eu bod wedi’u mabwysiadu gan y grŵp;
- os oes ganddynt gyfrif banc, yn enw’r grŵp, sy’n mynnu o leiaf ddau lofnod;
- os ydynt yn gallu darparu copi o’u cyfrifon diweddaraf neu ddatganiad o incwm a gwariant yn ogystal â chyfriflen. Rhaid i’r Cadeirydd neu uwch swyddog arall eu harchwilio neu eu llofnodi i ddangos eu bod wedi’u cymeradwyo;
- os gallant wario’r grant o fewn blwyddyn neu ei ddychwelyd, neu ran ohono, i’r Gronfa.
Mae’r arweiniad llawn a holl feini prawf y Gronfa Ymddiriedolaeth ar gael ar wefan Rhwydwaith Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf: www.communitiesfirst.info/ (gwefan allanol).
Cyswllt yn Llywodraeth y Cynulliad:
Uned Cymunedau yn Gyntaf
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1UZ
Helen Brown
Ffôn: (01685) 729265
