Skip to content

Digartrefedd

Dolenni perthnasol

Mae hyn er mwyn sicrhau bod pobl ddigartref a grwpiau agored i niwed yn gallu manteisio ar wasanaethau iechyd sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.
To help local authorities prevent homelessness as a result of the changes to the housing benefit regime, the Welsh Government made £1.4million available to local authorities.
Adroddiad i roi sail i adolygiad o’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Yn disgrifio sut y byddwn yn mynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru tan 2019.
Mae pobl ddigartref, pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu o gael eu symud yn rheolaidd, yn aml iawn yn dioddef iechyd meddwl a chorfforol gwaeth na grwpiau eraill yn y gymdeithas.
Yn rhoi gwybodaeth i staff gwasanaethau digartrefedd a chynghori ar dai am anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.
Person ddigartref

Credwn fod yn rhaid atal digartrefedd lle bynnag y bo modd a byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i gyflawni hyn.

Mae digartrefedd yn un o'r mathau mwyaf difrifol o allgáu cymdeithasol. Bydd wastad achosion o ddigartrefedd yn sgil argyfyngau fel tân neu lifogydd. Mae ffactorau strwythurol fel y farchnad dai a thlodi hefyd yn effeithio ar allu unigolion i osgoi digartrefedd a dod o hyd i'w hatebion eu hunain i ddatrys y broblem. Yn aml iawn, mae digartrefedd yn gysylltiedig ag argyfwng personol arall.

Rhaid gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi symudiadau annisgwyl o lety addas, a sicrhau bod pobl yn gallu cynllunio ymlaen llaw i wella eu hamgylchiadau.  Rhaid sicrhau bod yr opsiynau mwyaf eang posibl ar gael i bobl er mwyn iddynt allu trefnu eu llety eu hunain cyn y byddant yn ddigartref neu cyn gynted â phosibl ar ôl colli eu cartref.