Skip to content

Ydych chi mewn perygl o fod yn ddiagartref neu a ydych chi wedi colli'ch cartref?

Dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol, oherwydd y mae dyletswydd arnynt i roi cyngor i chi.

Mae'n bosibl y byddant yn gallu eich helpu i ddod o hyd i gartref, ac mewn rhai achosion bydd dyletswydd arnynt i sicrhau eich bod yn cael cartref. Maent yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn helpu pobl i gadw'u cartrefi neu i ddod o hyd i gartref newydd, drwy:

  • Gyfryngu rhwng y teulu a'r landlord
  • Rhoi cyngor ar y budd-dal tai a budd-daliadau eraill i helpu dalu'r rhent 
  • Mynd i'r afael â dyledion tai
  • Achub morgeisi
  • Cyngor cyfreithiol
  • Cymorth i gadw'ch tenantiaeth
  • Helpu pobl i gael tenantiaethau yn y sector rhenti preifat
  • Rhoi gwybodaeth am sut i wneud cais am denantiaeth tai cymdeithasol.

Gallwch hefyd gael cymorth gan sefydliadau annibynnol, megis Shelter Cymru, Canolfannau Cyngor ar Bopeth a chanolfannau cynghori eraill.

Shelter Cymru yw'r prif sefydliad digartrefedd yng Nghymru.

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael cymorth cyn gynted â phosibl, cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu ffoniwch un o'r llinellau cymorth di-dâl canlynol:

Llinell Gymorth Shelter Cymru    

Ffôn: 0845 075 5005    
Ewch i: Wefan Shelter Cymru (dolen allanol)

Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol  

Ffôn: 0845 345 4345    
Ewch i: Wefan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (dolen allanol)

Llinnell Gymorth Dyledion Tai Cymru

Ffôn: 0800 107 1340    
Ewch i: Wefan i Llinnell Gymorth Dyledion Tai Cymru (dolen allanol)

Help i gyn-filwyr

Bellach gallwch ddefnyddio cronfa ddata hawdd ei chwilio ar-lein ar gyfer gwasanaethau i gyn-filwyr sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Rydym wedi rhoi arian i Cymorth Cymru ac Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr greu’r gronfa ddata. Mae’r cyfeiriadur yn cynnwys dros 610 o wasanaethau, gan roi gwybodaeth fanwl am bob un, yr hyn y maent yn eu cynnig a sut i’w cael. Bydd y cyfeiriadur hefyd yn ddefnyddiol i bobl eraill sydd mewn sefyllfaoedd bregus a’r rheini sy’n gweithio i’w helpu.

Ewch i: Gwasanaethau digartrefedd i gyn-filwyr yng Nghymru (dolen allanol, Saesneg yn unig)