Skip to content

Adolygu Deddfwriaeth Digartrefedd

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o ddeddfwriaeth digartrefedd i fodloni un o ymrwymiadau y Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd.

Bydd yr adolygiad yn galluogi Llywodraeth Cymru i ystyried sut i ddefnyddio ei phwerau deddfu i sicrhau bod deddfwriaeth digartrefedd

  • yn addas ar gyfer anghenion pobl yng Nghymru, ac
  • yn helpu i fodloni amcanion hirdymor yn y maes hwn. 

Mae’r adolygiad yn seiliedig ar brosiect ymchwil sy’n ceisio barn a phrofiadau pobl ledled Cymru ac mewn gwledydd eraill. Mae’r prosiect yn cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Phrifysgol Heriot Watt yng Nghaeredin, Prifysgol Abertawe, a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD).  Roeddwn nhw'n llwyddiannus yn dilyn proses dendro.

I gael rhagor o fanylion am yr ymchwil a chael gwybod sut y gallwch chi ddweud eich dweud, dilynwch y ddolen yn ôl i wefan Prifysgol Caerdydd.

Ymweld â: http://www.cplan.cf.ac.uk/digartrefedd

Ar y cyd â’r ymchwil uchod, mae Shelter Cymru a Cymorth wedi cael arian i geisio barn bwysig y rheini sy’n defnyddio gwasanaethau. Mae’r prosiect, Cysylltu â Dinasyddion ynglŷn â Gwasanaethau a Deddfwriaeth Digartrefedd, wedi cael ei gynllunio i gyd-fynd â’r ymchwil uchod. Y cyswllt i gael rhagor o wybodaeth am brosiect Shelter Cymru yw Jennie Bibbings. Ei chyfeiriad e-bost yw jennieb@sheltercymru.org.uk