Skip to content

Tai gwag

Dolenni perthnasol

Mae hen orsaf heddlu yn Y Fenni wedi ei throi yn fflatiau drwy’r cynllun Troi Tai'n Gartrefi.
Ymgynghoriad yw hwn ynghylch a ddylai Gweinidogion ddiwygio deddfwriaeth er mwyn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol godi treth gyngor ychwanegol ar eiddo domestig gwag hirdymor yng Nghymru.
Mae’r canllaw’n nodi’r pwerau a’r mesurau y gall awdurdodau eu defnyddio i ddelio â chartrefi gwag.

Mae tai gwag yn gallu bod yn wastraff adnodd ac mae fandaliaid a sgwatwyr yn gallu eu targedu. Gall hyn effeithio ar ansawdd bywyd y bobl sy'n byw gerllaw.

I fynd i'r afael â'r materion cymdeithasol hyn, felly, ac er mwyn helpu i fodloni'r galw am dai, rydym yn awyddus i weld tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.

Ym mis Chwefror 2012, lansiwyd y cynllun newydd Troi Tai'n Gartrefi, sef cronfa fenthyciadau arloesol a gynlluniwyd i helpu i sicrhau bod eiddo o'r fath yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Caiff y cynllun hwn ei ddefnyddio yn ychwanegol at y pwerau presennol sydd ar gael i fynd i'r afael ag eiddo gwag.

Mae Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag (EDMO) yn galluogi awdurdodau lleol i gymryd rheolaeth ar dai gwag sy'n eiddo preifat, er mwyn iddynt allu sicrhau eu bod yn cael eu meddiannu. Mae'r pwerau hyn yn cefnogi'r gweithdrefnau sy'n bodoli eisoes, er enghraifft gorchmynion prynu gorfodol a chytundebau gwirfoddol rhwng pobl sy'n berchen ar dai ac awdurdodau lleol.

Ceir dau fath o EDMO; interim a therfynol. Ni ellir ond eu defnyddio pan fo annedd wedi bod yn wag heb reswm dilys am fwy na chwe mis, ac os caiff amodau eraill eu bodloni. Caiff y rhain eu gwneud yn erbyn y person sydd â'r buddiant mwyaf perthnasol yn yr annedd, sef y 'perchennog perthnasol'.

Mewn rhai achosion, ceir rhesymau da pam fo eiddo yn wag, a cheir trefniadau i sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried. Ni ellir gwneud EDMO ar adeilad:

  • nad yw'n annedd, hy adeilad neu ran o adeilad a ddefnyddir at ddibenion heblaw am rai preswyl
  • nad yw'n cael ei feddiannu'n llwyr, er enghraifft dim ond rhan o dŷ neu fflat sydd heb ei meddiannu neu mae yna ystafelloedd sbâr nad ydynt yn cael eu defnyddio
  • os bu rhywun yn byw ynddo ar unrhyw adeg yn ystod y chwe mis blaenorol.