Skip to content

Y cynllun Troi Tai'n Gartrefi

I fynd i'r afael â materion cymdeithasol ac fel rhan o'r ymdrech i ateb y galw am dai yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod y tai gwag hyn yn cael eu defnyddio unwaith eto.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, amcangyfrifir bod tua 23,000 o eiddo gwag yng Nghymru. Gallai rhywfaint o'r eiddo hwn fod yn gartref i bobl sydd ei angen. I fynd i'r afael â materion cymdeithasol, ac fel rhan o'r ymdrech i ateb y galw am dai yng Nghymru, rydym am sicrhau bod y tai gwag hyn yn cael eu defnyddio unwaith eto.

Rydym wedi ymrwymo i wneud hyn yn ein Rhaglen Lywodraethu. Dyna pam rydym wedi creu cronfa £10 miliwn i gefnogi’r cynllun newydd Troi Tai’n Gartrefi.

Mae benthyciadau ar gael i sicrhau bod tai gwag neu adeiladau masnachol yn cael eu troi’n gartrefi – gan gynnwys eu rhannu’n fflatiau -  i'w gwerthu neu eu rhentu.

Pan fydd y gwaith wedi’i orffen, rhaid gwerthu’r eiddo neu ei osod – ni chaiff y perchnogion wella eiddo er mwyn byw ynddo eu hunain.

Does dim llog ar y benthyciadau ac maen nhw ar gael nawr.  Rhaid eu had-dalu cyn pen dwy neu dair blynedd yn dibynnu a yw’r eiddo’n cael ei werthu neu ei osod.

Pan gyflwynwyd y cynllun, dechreuwyd ar werthusiad cynhwysfawr dros dair blynedd.  Bydd yn edrych ar bopeth sy’n cael ei wneud gan awdurdodau lleol i fynd i’r afael â thai gwag.

Lansiwyd y cynllun Troi Tai'n Gartrefi gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ym mis Ebrill 2012.

Mae wedi’i ddatblygu ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Panel Technegol Iechyd yr Amgylchedd Cymru Gyfan ac Andrew Lavender, Ymgynghorydd ar gynllun No Use Empty yng Nghaint.