Skip to content

Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth

Arian.

Sicrhau tegwch wrth ymdrin â blaendaliadau tenantiaid.

Pan fydd landlord neu asiant gosod yn cymryd blaendal oddi wrth denant, mae'n rhaid i'r blaendal gael ei ddiogelu mewn Cynllun Diogelu Blaendal Tenantiaeth a awdurdodir gan y llywodraeth.

Daeth y Cynllun Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth i rym ym mis Ebrill 2007.  Diben y cynllun yw:

  • sicrhau bod tenantiaid yn cael eu blaendal cyfan neu ran ohono yn ôl os oes ganddynt hawl iddo;
  • ei gwneud yn haws i unrhyw anghydfod rhwng tenantiaid a landlordiaid gael ei ddatrys; ac
  • annog tenantiaid i ofalu am yr eiddo y maent yn ei rentu.

Dylai tenantiaid holi eu landlord ynghylch manylion y cynllun cyn llofnodi cytundeb tenantiaeth newydd.