Skip to content

Sut mae'n gweithio?

Tenantiaid

Os ydych chi'n llofnodi cytundeb tenantiaeth newydd gyda'ch landlord ar ôl Ebrill 2007, gofynnwch sut bydd eich blaendal yn cael ei ddiogelu. Mae eich landlord yn gallu rhoi manylion ichi ar sut i gael gwybodaeth am gynllun sy'n diogelu eich blaendal.

Landlordiaid

Byddwch yn gallu dewis rhwng dau brif fath o gynllun: un cynllun gwarchod a dau gynllun ar sail yswiriant.

Y cynllun gwarchod blaendal

  • mae'r tenant yn talu'r blaendal i'r landlord 
  • mae'r landlord yn talu'r blaendal i'r cynllun
  • o fewn 14 diwrnod o dderbyn y blaendal, mae'n rhaid i'r landlord roi'r wybodaeth ragnodedig i'r tenant (i'w phennu yn yr isddeddfwriaeth) am y cynllun a ddefnyddir ac am y denantiaeth
  • os yw'r landlord a'r tenant yn cytuno ar sut mae rhannu'r blaendal ar derfyn y denantiaeth, byddant yn trefnu bod y cynllun yn rhoi'r blaendal yn ôl ac yn ei rannu yn y modd y cytunwyd arno
  • os oes anghydfod, bydd y swm yn cael ei gadw yn y cynllun nes bod y gwasanaeth datrys anghydfodau neu'r llysoedd yn penderfynu beth sy'n deg
  • defnyddir y llog a gronnir yn sgil blaendaliadau a roddir yn y cynllun i dalu am gynnal y cynllun a defnyddir unrhyw symiau sy'n weddill i gynnig llog i'r tenant, neu i'r landlord os nad oes gan y tenant hawl iddo.

Cynlluniau ar sail yswiriant

  • mae'r tenant yn talu'r blaendal i'r landlord
  • mae'r landlord yn cadw'r blaendal gan dalu premiwm i'r cwmni yswiriant - dyma'r gwahaniaeth mwyaf rhwng y cynllun hwn a'r cynllun gwarchod
  • o fewn 14 diwrnod o dderbyn y blaendal, mae'n rhaid i'r landlord roi'r wybodaeth ragnodedig i'r tenant (i'w bennu yn yr isddeddfwriaeth) am y cynllun a ddefnyddir ac am y denantiaeth
  • os yw'r landlord a'r tenant yn cytuno ar sut i rannu'r blaendal ar derfyn y denantiaeth, bydd y landlord yn rhoi'r blaendal i gyd neu ran ohono yn ôl
  • os oes unrhyw anghydfod, mae'n rhaid i'r landlord roi'r swm y mae anghydfod yn ei gylch i mewn i'r cynllun i'w gadw nes bod yr anghydfod wedi'i ddatrys
  • os nad yw'r landlord yn gallu cydymffurfio â'r gofynion hyn am unrhyw reswm, bydd y trefniadau yswiriant yn sicrhau bod y tenant, os yw hynny'n gymwys, yn cael y blaendal yn ôl.

Enghraifft

Mae tenant yn talu blaendal o £1000. Ar ddiwedd cyfnod y denantiaeth, mae'r landlord yn dymuno cadw £200 i dalu am gelfi sydd wedi torri. Bydd yr £800 sydd ar ôl yn cael ei roi yn ôl i'r tenant.

Mae'r tenant yn anghytuno, gan honni bod y celfi wedi torri pan symudodd i mewn. Mae'r ddau yn cytuno i ddefnyddio'r Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau (ADR).  Felly, trosglwyddir y £200 y mae'r anghydfod yn ei gylch i weinyddydd y cynllun nes caiff yr anghydfod ei ddatrys.

Ym mhob cynllun, mae'n rhaid rhoi'r blaendal yn ôl o fewn deg niwrnod i'r dyddiad y mae'r landlord a'r tenant yn cytuno ar sut i rannu'r blaendal, neu o fewn 10 diwrnod ar ôl hysbysiad ADR/penderfyniad gan y Llys.