Skip to content

Pwy fydd yn rhedeg y cynlluniau?

Mae'r llywodraeth wedi dyfarnu contractau ar gyfer cynlluniau Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth i dri chwmni i gychwyn o 6 Ebrill 2007. Mae pob cwmni yn gyfrifol am un cynllun yr un. Ceir crynodeb o bob cynllun a manylion cyswllt isod.

Gwasanaeth Diogelu Blaendaliadau

Dyma'r unig gynllun gwarchod blaendal. Computershare Investor Services PLC fydd yn rhedeg y cynllun gyda Chymdeithas Siartredig y Cymrodeddwyr yn darparu'r gwasaneth Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau (ADR).

Gweler: Gwefan y Gwasanaeth Diogelu Blaendaliadau.
Rhif ffôn: 0870 707 1 707.

Cynllun Blaendaliadau Tenantiaeth

Dyma gynllun diogelu blaendaliadau ar sail yswiriant, yn bennaf ar gyfer asiantaethau gosod eiddo.  Y nhw fydd yn rhedeg gwasanaeth Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau y cynllun hefyd.

Gweler: Gwefan y Cynllun Blaendaliadau Tenantiaeth.
Rhif ffôn: 0845 226 7837.

Cynlluniau Blaendaliadau Tenantiaeth

Bydd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid, ar y cyd â chwmni yswiriant Hamilton Fraser, yn rhedeg cynllun ar sail yswiriant hefyd, yn bennaf ar gyfer landlordiaid.  Prif ddarparydd y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau (ADR) fydd Cymdeithas Siartredig y Cymrodeddwyr. 

Gweler: Gwefan Tenancy Deposit Solutions.