Skip to content

Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth

Dolenni perthnasol

Cyngor yn esbonio i landlordiaid beth mae trwyddedu'n ei olygu a sut i wneud cais am drwydded.
Cyngor i denantiaid yn esbonio sut mae trwyddedu'n gweithio a beth yw cyfrifoldebau eu landlordiaid.
Cyngor i fyfyrwyr ar eu hopsiynau o ran rhentu tŷ i fyw.

Cyflwynwyd trwyddedau ar gyfer rhai mathau o Dai Amlfeddiannaeth er mwyn helpu i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n effeithiol. Yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am drwyddedu, ac mae'n orfodol ar gyfer rhai mathau o dai amlfeddiannaeth. Gallant fynnu hefyd fod mathau eraill o dai amlfeddiannaeth yn cael eu trwyddedu.

Trwyddedu gorfodol

Rhaid cael trwydded ar gyfer tai amlfeddiannaeth 3 llawr neu fwy, a hynny am fod mwy o risg yn perthyn iddynt.

Trwyddedu ychwanegol

Mae gan awdurdodau lleol y disgresiwn i drwyddedu categorïau eraill o Dai Amlfeddiannaeth. Mae hyn yn eu galluogi i fynd i'r afael â phroblemau penodol a allai fodoli mewn tai llai o faint. Caiff yr awdurdod lleol gyflwyno trwyddedu ychwanegol ar gyfer y tai amlfeddiannaeth a'r ardaloedd daearyddol y maent yn eu hystyried yn briodol. Cyn cyflwyno cynllun trwyddedu ychwanegol, rhaid i'r awdurdod lleol fodloni meini prawf penodol.

Eithriadau

Nid oes angen trwydded ar gyfer rhai mathau o adeiladau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • tai sy'n eiddo i gorff cyhoeddus (megis yr heddlu neu'r GIG), i awdurdod lleol neu i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, neu dai sy'n cael eu rheoli ganddynt
  • neuaddau preswyl i fyfyrwyr
  • adeiladau sy'n cael eu meddiannu'n llwyr gan rydd-ddeiliaid neu lesddeiliaid tymor hir.