Skip to content

Tribiwnlys Eiddo Preswyl

Mae’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl (a elwid ynghynt yn Panel Asesu Rhenti Cymru) yn gorff annibynnol statudol a sefydlwyd o dan y Ddeddf Rhenti 1965. Prif gyfrifoldebau'r Tribiwnlys yw sefydlu Pwyllgorau Asesu Rhent a Thribiwnlysoedd Rhent i ystyried apeliadau ynghylch lefelau rhent ac i osod rhent priodol lle mae dadleuon rhwng landlordiaid a thenantiaid yn y Sector Rhentu Preifat. Mae'r Tribiwnlys hefyd yn sefydlu Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau er mwyn datrys rhai dadleuon rhwng lesddalwyr a rhydd-ddeiliaid.

Pwyllgorau Asesu Rhent a Thribiwnlysoedd Rhent

Mae aelodau'r Pwyllgorau a'r Tribiwnlysoedd yn cynnwys cyfreithwyr, priswyr a lleygwyr fydd yn ystyried apeliadau mewn perthynas â lefelau rhenti ac yn gosod rhenti priodol lle mae dadl rhwng y landlord a'r tenant yn y Sector Rhentu Preifat. Mae'r Pwyllgor yn gwrando ar apeliadau yn erbyn lefelau rhent sydd wedi eu pennu gan y Swyddog Rhent ar gyfer tenantiaethau rheoledig ac mae'n gosod rhent teg. Mae'r pwyllgor hefyd yn gwrando ar apeliadau yn erbyn lefelau rhent a bennir gan denantiaid am denantiaethau sicredig a thenantiaethau daliad byr sicredig, ac fe bennir rhent y farchnad mewn achosion o'r fath.

Mae'r Pwyllgorau yn annibynnol oddi wrth lywodraeth ganolog a llywodraeth leol. Nid oes hawl i apêl yn erbyn penderfyniad y pwyllgor oni bai ei fod ar bwynt cyfreithiol.

Nid chodir tâl am benderfyniad gan y pwyllgor.

Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau

Sefydlwyd Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau er mwyn datrys dadleuon rhwng lesddalwyr a rhydd-ddeiliaid dros bris prynu lesddaliad ty; y pris taladwy am ryddfraint torfol bloc o fflatiau; y pris taladwy gan denant fflat brydles am brydles wedi ei hymestyn; telerau caffaeliad y rhyddfraint; rhent tir modern ac i ystyried cynlluniau rheoli ystadau. Gellir trafod dadleuon dros daliadau am wasanaeth, dewis y landlord o gwmni yswiriant a cheisiadau i benodi rheolwr hefyd.

Mae'n bosibl y bydd tâl yn cael ei godi am rai o'r ceisiadau am wrandawiad a dylech gysylltu â'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl am fanylion am y ffioedd sy'n daladwy.

Mae'r Tribiwnlysoedd yn annibynnol ac yn amhleidiol. Mae 3 aelod ar Dribiwnlys:

  1. cyfreithiwr
  2. prisiwr; a
  3. lleygwr.

Bydd y tribiwnlys yn clywed dwy ochr pob dadl. Bydd penderfyniad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi yn fuan ar ôl y gwrandawiad.

Mae'r penderfyniad yn derfynol a gellir ei orfodi. Serch hynny, gall y Tribiwnlys Tiroedd wrando ar apeliadau cyn belled â bod yr LVT neu'r Tribiwnlys Tir yn cytuno ar hynny.

Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach, cysylltwch â:

Tribiwnlys Eiddo Preswyl dros Gymru
Llawr 1af
Aden Orllewinol
Ty Southgate
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW

Ffôn: 029 2092 2777
Ffacs: 029 2023 6146
Ebost: rpt@wales.gsi.gov.uk