Skip to content

Cyhoeddiadau

Dolenni perthnasol

Amlygodd yr ymchwil amrywiaeth o ddulliau ac arfer da y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu defnyddio i ddelio â digwyddiadau casineb.
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o'r wybodaeth o werthusiad o grant £1.5m Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu addasiadau i gartrefi pobl hŷn yn ystod 2011-12.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth ymchwil a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2012 i gasglu a chrynhoi gwybodaeth am weithgareddau datblygu cymunedol a chefnogi cymdeithasau tai.
Mae'r cylchlythyrau hyn yn berthnasol i'r bobl hynny sy'n chwilio am wybodaeth am reoli tai yng Nghymru.
Yn rhoi gwybodaeth i staff gwasanaethau digartrefedd a chynghori ar dai am anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.
Yn rhoi gwybodaeth i reolwyr tai a landlordiaid am anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.
Silff lyfrau gyda phentwr o lyfrau lliw gwyrdd

Rhest gyflawn o gyhoeddiadau'n ymwneud â thai.




 

Rhentu Cartrefi yng Nghymru – Adroddiad Comisiwn y Gyfraith

15/05/13
Gwnaeth Llywodraeth Cymru gais i Gomisiwn y Gyfraith adolygu a diweddaru ei argymhellion ar gyfer diwygio’r gyfraith yn ymwneud â thai.
 

Safon Rheolaeth Tai Cymru i Fynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

08/05/13
Safon wirfoddol yw Safon Rheolaeth Tai Cymru i Fynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi'i hanelu at Adrannau Tai Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru.
 

Sicrhau Mynediad at Forgeisi ar gyfer Tai Fforddiadwy: Nodyn arfer da ar gyfer ymarferwyr cynllunio a thai

25/04/13
Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn wedi’i anelu at ymarferwyr cynllunio a thai er mwyn cynorthwyo i gyflenwi tai fforddiadwy.
 

Adolygu’r Polisi Digartrefedd Rhyngwladol

19/03/13
Adroddiad i roi sail i adolygiad o’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd yng Nghymru.
 

Eu Tŷ Nhw, Eich Cartref Chi

07/12/12
Crynodeb o’r ymchwil a wnaed gan Lais Defnyddwyr Cymru i’r hyn a allai ddigwydd yn y sector tai rhent preifat yn sgil diwygio’r gyfraith ynghylch tenantiaeth.
 

Canllawiau ar Gostau Derbyniol/Costau Uniongyrchol i’w defnyddio gyda chyllid Grant Tai Cymdeithasol yng Nghymru

16/11/12
Mae’r ffigurau yn y canllawiau ar gostau derbyniol (ACGau) yn cael eu defnyddio fel canllaw ar gyfer pob cynllun sy’n cael ei  ddatblygu â Grant Tai Cymdeithasol.
 

Asesiad o Effaith yr Atebion Tai

11/10/12
Adroddiad i roi sail i adolygiad o’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd yng Nghymru.
 

Mesur y camau a gymerwyd i wella tai cymdeithasol yng Nghymru

11/10/12
Canlyniadau ymarfer monitro o berfformiad landlordiaid cymdeithasol o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.
 

Cod Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd

13/08/12
Mae’r Cod Canllawiau hwn yn cynnig nifer o arferion da i hwyluso’r gwaith o atal ac ymdrin â digartrefedd.
 

Adolygiad o Ragolygon Ariannol 30 mlynedd Cymdeithasau Tai Cymru ar gyfer 2011

20/07/12
Rydym yn adolygu’r rhagolygon 30 mlynedd er mwyn ystyried ymarferoldeb ariannol y cymdeithasau tai (CT) yn y tymor canolig a’r hir dymor.
 

Canllawiau ar gyfer awdurdodau tai lleol ar geisiadau i atal yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig dros dro

28/06/12
Bwriad y canllawiau hyn yw ategu canllawiau sydd eisoes yn bodoli ar yr Hawl i Brynu a hawliau cysylltiedig.
 

Dadansoddiad o effaith y ddeddfwriaeth digartrefedd sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd.

25/06/12
Adroddiad i roi sail i adolygiad o’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd yng Nghymru.
 

Opsiynau ar gyfer fframwaith deddfwriaethol digartrefedd gwell yng Nghymru

25/06/12
Adroddiad i roi sail i adolygiad o’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd yng Nghymru
 

Gwerthusiad prosiectau atal digartrefedd blwyddyn o hyd

18/06/12
Mae'r crynodeb gweithredol a'r adroddiad terfynol gwerthuso rhaglen o brosiectau atal digartrefedd a Llywodraeth Cynulliad Cymru a ariennir yn 2010/11.
 

Dechrau ar eich arweiniad i Asesiad o'r Farchnad Dai Leol

11/06/12
Darparu awdurdodau lleol gyda methodoleg ymarferol i gyflawni Asesiad o’r Farchnad Dai Leol.
 

Diweddariad Rhif 5 ar Reoleiddio Tai - Mai 2012

31/05/12
Mae pethau'n symud yn gyflym a chewch grynodeb yn y bwletin hwn o hynt y gwaith hyd yma.
 

Datblygu fframwaith modern ar gyfer rheoleiddio tai yng Nghymru – Bwletin 4

20/12/11
Cewch grynodeb yn y cylchlythyr hwn o hynt y gwaith hyd yma.
 

Mesur Tai (Cymru) 2011

13/06/11
Cafodd Mesur Tai (Cymru) 2011 ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 22 Mawrth 2011 a'i gymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor ar 10 Mai 2011. Rydym wedi cyhoeddi dogfen sy'n esbonio effeithiau'r Mesur, ac mae'r Memorandwm Esboniadol hwnnw i'w weld isod.
 

Cod ar gyfer Prosiect Peilot Cartrefi Cynaliadwy: Adroddiad Interim

07/06/11
Dechreuodd ein Côd 05/04 Prosiect Peilot yn 2008. Mae hwn yn adroddiad cynnydd. Mae hefyd yn rhoi adborth ar sut mae'r prosiect yn datblygu ac yn amlinellu rhai casgliadau cychwynnol.
 

Y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u Cofrestru yng Nghymru

09/05/11
Mae’r Fframwaith Rheoleiddiol hwn yn berthnasol i gymdeithasau tai sydd wedi’u cofrestru ac sy’n cael eu rheoleiddio gan Weinidogion Cymru o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996.
 

Rhent Gyntaf – rhent canolradd

29/03/11
Nod Rhent Gyntaf yw helpu awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gyflawni eu hamcanion ym maes tai. Ymhlith y rhain mae creu datblygiadau a chymunedau incwm cymysg lle gall pobl fforddio prynu neu rentu.
 

Cadw buddsoddiad yn lleol: gwneud y mwyaf o £ Cymru

15/02/11
Mae’r papur gwybodaeth hwn yn edrych ar y cyrhaeddiadau yn y sector tai ddwy flynedd ar ôl lansiad y Pecyn Cymorth Gallu Gwneud. Mae'r Pecyn Cymorth yn canolbwyntio ar sicrhau recriwtio a hyfforddiant wedi’u targedu fel ofynion craidd o gytundebau caffael.
 

Gwerthusiad Rhaglen Weithredu Adolygiad Essex

31/01/11
Comisiynwn ni cyn Gweinidog Cymru Sue Essex i adolygu darpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru ac i wneud awgrymiadau ar gyfer gwella. Cynhaliwyd yr Adolygiad Essex chynnal rhwng mis Medi 2007 a Mehefin 2008. Yr 43 o argymhellion Adolygiad eu dwyn ymlaen gan Rhaglen Weithredu.
 

Adolygiad Annibynnol y Rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru: Adroddiad Terfynol

22/11/10
Ym mis Rhagfyr 2009, comisiynodd Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio, adolygiad annibynnol o gymorth sy’n gysylltiedig â thai, hynny yw'r Rhaglen Cefnogi Pobl.
 

Datblygu Fframwaith Modern ar gyfer rheoliadau tai yng Nghymru: Diweddariad Rhif 3

21/10/10
Dyma fwletin Awst 2010 ar foderneiddio’n fframwaith ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Mae’n disgrifio’r cynnydd a wnaed a datblygiadau allweddol.
 

Canllawiau i arferion da gyda chartrefi gwag

22/09/10
Gall cartrefi gwag fod yn adnodd sy’n cael ei wastraffu. Gallant hefyd fod yn darged i fandaliaid a sgwatwyr, a gall hynny effeithio ar ansawdd bywyd y cymdogion. Rydym yn awyddus i’r cartrefi gwag hyn gael eu defnyddio o’r newydd. Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn ac yn gymorth i ...
 

Datblygu fframwaith rheoleiddio modern ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru - Canlyniadau cyflawni

06/09/10
Roedd angen inni ddiffinio disgwyliadau/dibenion Cymdeithasau Tai, a'u dyheadau, fel rhan o'r fframwaith rheoleiddio newydd yng Nghymru. Yn dilyn ymgynghoriad, datblygwyd canlyniadau cyflawni - sef datganiadau o fwriad y mae'r Cymdeithasau Tai yn anelu atynt.
 

Adolygiad o Ragolygon Ariannol 30 mlynedd Cymdeithasau Tai Cymru ar gyfer 2009

02/08/10
Rydym yn adolygu’r rhagolygon 30 mlynedd er mwyn ystyried ymarferoldeb ariannol y cymdeithasau tai (CT) yn y tymor canolig a’r hir dymor. Caiff y rhagolygon yma eu cyflwyno i ni yn flynyddol erbyn y 31ain o Orffennaf. Mae’r papur yma’n nodi prif ddarganfyddiadau’r adroddiad ymarferoldeb ariannol ar ...
 

Datganiad Polisi – Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cyhoeddi targed ar gyfer y newidiadau cyntaf i Reoliadau Adeiladu Cymru

09/07/10
Gan fod pwerau Rheoliadau Adeiladu yn mynd i gael eu trosglwyddo i Gymru ar 31 Rhagfyr 2011, mae Gweinidogion Cymru wedi nodi eu cynigion cyntaf i wella perfformiad ynni tai newydd.
 

Llawlyfr Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol

11/06/10
Rydym wedi archwilio ffyrdd o ddarparu tai mewn ardaloedd o bwysau uchel er mwyn cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy sydd ar gael. Er mwyn ein helpu ni i fynd i’r afael â’r mater hwn, rydym wedi ymrwymo yn nogfen Cymru’n Un i hybu ymestyn Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol ar hyd a lled Cymru.
 

Caffael sy'n gyfeillgar i fusnesau bach a chanolig: yr ail Pecyn Cymorth Gallu Gwneud

21/04/10
Fe ddatblygwyd y ddogfen yma mewn partneriaeth a Gwerth Cymru. Nod y canllaw yw i roi opsiynau i brynwyr ar uchafu'r cyfleoedd drwy caffael i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
 

Datblygu Fframwaith Modern ar gyfer rheoliadau tai yng Nghymru: Diweddariad Rhif 2

24/03/10
Dyma fwletin Chwefror 2010 ar foderneiddio’n fframwaith ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Mae’n disgrifio’r cynnydd a wnaed a datblygiadau allweddol.
 

Byw’n Dda – Byw Bywyd Annibynnol

05/03/10
Mewn cymdeithas sy’n heneiddio, mae’n bwysig ein bod yn mynd ati i ddatblygu polisïau tai strategol sy’n caniatáu i bobl hŷn barhau i fyw’n annibynnol a chydag urddas. Mae’r adroddiad hwn, a gafodd ei ysgrifennu gan Wendy Bourton OBE, yn edrych ar dai ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Mae’n awgrymu y ...
 

Safon Ansawdd Tai Cymru: Arweiniad Diwygiedig i Landlordiaid Cymdeithasol ar Ddehongli a Chyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru

08/12/09
Rydym yn credu y dylai pawb yng Nghymru cael y cyfle i fyw mewn tŷ o safon dda o fewn cymuned ddiogel. I helpu i gyflawni’r nod hwn rydym wedi cyhoeddi Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Mae’r safon hon yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord cymdeithasol wella ei stoc tai i lefel dderbyniol erbyn 2012 ...
 

Canllawiau ar gyfer Cymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol am y cynllun achub morgeisi

17/09/09
Cyhoeddwyd y canllawiau hyn ym mis Medi 2009. Mae'n darparu gwybodaeth am y cynllun achub morgeisi, a ariennir gan y rhaglen Grant Tai Cymdeithasol.
 

Adroddiad ar Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb - y Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd

14/09/09
Ym mis Mai 2009, gwnaethom Asesiad llawn o Effaith Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd Cymru ar Gydraddoldeb. Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau'r asesiad hwnnw.
 

Adolygiad Ardaloedd Adnewyddu yng Nghymru

02/09/09
Mae ardaloedd adnewyddu wedi bodoli am bron 20 mlynedd. Eu prif bwrpas yw gwella amodau byw mewn ardaloedd lle mae cwmpas i wella tai a mynd i’r afael ag ystod eang o elfennau amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol cysylltiedig.
 

Y Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd i Gymru

16/07/09
Mae'r cynllun deng mlynedd hwn yn disgrifio sut y byddwn yn mynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru tan 2019.
 

Cynllun Gweithredu i Achub Morgeisi 2009 - 2010

16/07/09
Adfeddiannu morgeisi yw un o brif achosion tlodi ac allgáu ariannol hirdymor. Mae’r hinsawdd economaidd sydd ohoni yn cynyddu’r risg i aelwydydd agored i niwed. Mae hwn yn faes y mae’n rhaid inni fynd i’r afael ag ef a’i atal rhag datblygu’n un o brif achosion digartrefedd ymhlith teuluoedd.
 

Canllawiau Statudol ar ymgynghori cyn cael gwared ar stoc tai sy’n eiddo i Gynghorau a’i throsglwyddo i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

09/07/09
Anelir y Canllawiau Statudol hyn at Awdurdodau Lleol. Mae’n amlinellu’r broses y mae’n rhaid iddynt ei dilyn wrth ymgynghori â thenantiaid ar gynigion i drosglwyddo stoc tai’r cyngor i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig.
 

Diweddariad o Gynllun Gweithredu ac Amserlen y Strategaeth Genedlaethol ar Gyfranogiad Tenantiaid - Mehefin 2009

26/06/09
Cyhoeddwyd y Strategaeth Genedlaethol ar Gyfranogiad Tenantiaid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ebrill 2007. Mae’r Strategaeth yn nodi sut gall y sector tai cymdeithasol wella gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau bod pobl yn ganolog i’r sector. Roedd y Strategaeth yn cynnwys Cynllun Gweithredu gy ...
 

Cysylltu â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

18/06/09
Mae’r dogfennau hyn yn rhestru manylion cyswllt Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru.
 

Canllawiau anstatudol i landlordiaid ynghylch tresbaswyr a oddefir

10/06/09
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth am yr hyn y gallai fod angen i landlordiaid cymdeithasol ei ystyried.
 

Canllawiau Terfynol ar gyfer Cynllun Cymorth Prynu Dewis Eich Hun Cymru a ariennir drwy’r Grant Tai Cymdeithasol, Mai 2009

20/05/09
Mae’r ddogfen hon yn ganllaw i awdurdodau lleol mewn perthynas ag ailgyflwyno’r cynllun Cymorth Prynu Dewis Eich Hun a ariennir drwy’r Grant Tai Cymdeithasol.
 

Canllawiau Trosglwyddo Tai 2009

16/04/09
Canllawiau yw’r rhain i awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n bwriadu gofyn i’w tenantiaid bleidleisio ar gynigion i drosglwyddo stoc er mwyn cyflawni a chynnal Safon Ansawdd Tai Cymru.
 

Deddf Tai 1985 – Adran 438 ac Atodlen 16: Cyfraddau llog morgeisi llywodraeth leol

30/03/09
Mae’r llythyr hwn yn egluro’r newid yn y gyfradd llog ar gyfer morgeisi awdurdodau lleol a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2009.
 

Datganiadau Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2007 – 2011: Canllawiau terfynol

11/02/09
Yn y ddogfen Cymru'n Un roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i gynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru o 6,500 o leiaf dros y pedair blynedd nesaf.
 

Trosglwyddo Stoc - Siarter a Chanllawiau i Denantiaid a Phrydleswyr Cyngor yng Nghymru

19/01/09
Mae’r Siarter hon yn amlinellu’r hawliau a’r safonau gwasanaeth sylfaenol y dylai unrhyw denant cyngor neu brydleswyr yng Nghymru sy’n ymwneud â throsglwyddo stoc eu disgwyl gan ei landlord presennol a’i landlord newydd.
 

Ydych chi wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd?

30/09/08
Canllaw ar ymateb asiantaethau Cyfiawnder Troseddol i droseddau casineb homoffobaidd, a'r camau y medrwch chi eu cymryd.
 

Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996

06/09/08
Cydsyniad Cyffredinol Grantiau Cyflysterau i'r Anabl (Amodau ynghylch Cymeradwyo neu Dalu Grantiau) 2008
 

Curo'r Oerni

04/09/08
Dyma becyn cymorth i helpu awdurdodau lleol a rhanddeiliaid i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn lleol drwy edrych ar arferion da ledled Cymru.
 

Gwariant ar y cynllun Cymorth Prynu a nifer y tai a gafodd gymorth ariannol

14/08/08
Cyfanswm yr arian a gaiff ei wario ar gynlluniau Cymorth Prynu yn ardal pob awdurdod lleol.
 

Sylw i lwyddiant: Datganiadau ariannol cymdeithasau tai Cymru yn 2007

23/07/08
Mae Llywodraeth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru wedi cyhoeddi ar y cyd grynodeb o ddatganiadau ariannol y cymdeithasau tai yn 2007 am y tro cyntaf.
 

Tai fforddiadwy yng Nghymru: adroddiad annibynnol ar gyfer y Gweinidog dros Dai

23/06/08
Ym mis Hydref 2007, sefydlodd y Dirprwy Weinidog dros Dai Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ymchwilio i'r rhwystrau a'r cyfleoedd sy'n codi yn sgil blaenoriaeth Llywodraeth y Cynulliad i ddarparu nifer sylweddol fwy o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru erbyn 2011 yng nghyd-destun agenda "Cymru ...
 

Datblygu dull o ddyrannu cyllid i’r awdurdodau lleol o dan y rhaglen Cefnogi Pobl

14/06/08
Cafodd yr adroddiad hwn ei gomisiynu er mwyn ymchwilio i fodelau ar gyfer dyrannu cyllid i'r awdurdodau lleol o dan y rhaglen Cefnogi Pobl.
 

Datblygu Strategaethau Cyfranogiad Tenantiaid Lleol: canllawiau gweithredu

19/05/08
Nod y canllawiau hyn yw helpu awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i roi Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol Cymru ar waith.
 

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Tai

03/04/08
Rydym am greu cymdeithas deg a chyfiawn yma yng Nghymru, ac mae tai yn rhan allweddol o hyn.
 

Rhaglen Grant Rheoli Tai Cymdeithasol 2008-09 wedi'i gymeradwyo (Saesneg yn unig)

05/03/08
Cynlluniau newydd a roddir o dan Rhaglen Grant Rheoli Tai Cymdeithasol o Ebrill 2008.
 

Ailddosbarthu'r Gronfa Cefnogi Pobl

23/10/07
Dyma wybodaeth gefndir am y prosiect i newid y modd rydym yn dosbarthu'r gronfa Cefnogi Pobl. Mae'r papur hwn yn cynnwys yr egwyddorion y mae'r gwaith hwn yn seiliedig arnynt.
 

Canllawiau ar Gam-Drin Domestig: Cefnogi Pobl a Gweithio Aml-Asiantaeth

01/10/07
Cynlluniwyd y canllawiau hyn i gynorthwyo cyrff comisiynu i sicrhau bod amrywiaeth priodol o gymorth a llety ar gael i aelwydydd sy’n profi cam-drin domestig ac i annog gwaith partneriaeth er mwyn sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau ac arferion priodol yn cael eu gweithredu. Bwriad y canllawiau hyn ...
 

Dyraniadau Grantiau Tai Cymdeithasol

07/08/07
Cyfanswm y Grantiau Tai Cymdeithasol a ddyrannwyd i bob awdurdod lleol ers 1999.
 

Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth yng Nghymru - Canllaw i denantiaid

28/06/07
Dylech ddarllen y llyfryn hwn os ydych yn denant (neu’n ddaliwr trwydded) ac yn byw mewn tŷ amlfeddiannaeth (neu HMO fel y’i gelwir yn gyffredin) neu os nad ydych yn siŵr os yw’ch tŷ yn rhan o HMO.
 

Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth yng Nghymru - Canllaw i landlordiaid

28/06/07
Dylech ddarllen y llyfryn hwn os ydych yn landlord preifat neu’n rheolwr ar dŷ amlfeddiannaeth (a elwir yn aml yn HMO) neu os nad ydych yn siŵr a yw’r adeilad yn perthyn i’r categori hwnnw.
 

Canllaw i lety myfyrwyr yng Nghymru

28/06/07
Fel myfyriwr yn mynd i’r brifysgol byddwch yn wynebu nifer o sefyllfaoedd newydd ac anghyfarwydd. Efallai mai’r her fwyaf fydd dod o hyd i rywle i fyw.
 

Grant Adnewyddu Safleoedd Sipsiwn-Teithwyr 2007-2008

30/04/07
Pwrpas y grant adnewyddu yw gwella ansawdd bywyd preswylwyr safleoedd Sipsiwn a Theithwyr trwy foderneiddio’r cyfleusterau a ddarperir ar safleoedd gan awdurdodau lleol, a thrwy ddarparu cyfleusterau newydd ar safleoedd yn ôl yr angen.
 

Adolygiad o'r Cynllun Cymorth Prynu yng Nghymru

26/03/07
Ein cynlluniau ar gyfer newid sut y mae'r Cynllun Cymorth Prynu yn gweithio. Diben y newidiadau hyn yw dileu neu lleihau'r gwendidau a nodwyd gan yr Adolygiad o Bolisïau Perchentyaeth Cost Isel yng Nghymru.
 

Tenantiaid - Cadw eich blaendal yn ddiogel

19/03/07
Beth yw Diogelwch Blaendal Tenantiaeth? Ateb eich cwestiynau...
 

Strategaeth Genedlaethol i Gymru ar Gyfranogiad Tenantiaid

01/03/07
Ein strategaeth ar gyfer hyrwyddo a chynorthwyo cyfranogiad tenantiaid ym maes rheoli gwasanaethau tai. Mae'n esbonio ein polisi ni ar gyfranogiad tenantiaid a sut rydym yn disgwyl i landlordiaid cymdeithasol gyflawni hyn.
 

Benthyca darbodus

21/12/06
Cipolwg ar sut y gall awdurdodau lleol godi arian ychwanegol at ddibenion gwariant cyfalaf. Gall 'benthyca darbodus' gynorthwyo awdurdodau lleol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a hefyd ei chynnal.
 

Gwerth Gorau ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

08/12/06
Rydym wedi cyhoeddi'r canllawiau hyn er mwyn egluro sut y dylai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gymhwyso egwyddorion 'gwerth gorau' i’w gwaith. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r paratoadau y mae angen i Landlordiaid eu gwneud, a sut byddwn yn cynorthwyo Landlordiaid i gynnig ...
 

Paratoi strategaethau tai lleol: Canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

30/10/06
Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ar gynhyrchu Strategaethau Tai Lleol yng Nghymru.
 

Cartrefi Gwell i Bobl Cymru - Cynllun Gweithredu

01/10/06
'Cartrefi Gwell i Bobl Cymru' oedd ein Strategaeth Dai Genedlaethol gyntaf i Gymru. Fe'i cymeradwywyd ym mis Gorffennaf 2001 a'i rhoi ar waith drwy'r cynllun gweithredu hwn. Mae'r cynllun hwn yn crynhoi'r nodau, yr amcanion a'r targedau, ac mae'n cofnodi'r cy ...
 

Radon

25/09/06
Nwy naturiol yw radon sy'n digwydd o ganlyniad i ddadfeiliad ymbelydrol wraniwm. Ceir ychydig bach ohono ym mhob craig ac mewn pridd. Mae'r nwy yn gwasgaru yn gyflym yn yr awyr agored ond gall grynhoi mewn adeiladau, yn enwedig mewn mannau lle mae'r tir oddi tano yn cynnwys olion uwch n ...
 

Datblygu sgiliau a gwybodaeth tenantiaid: Arweiniad a chanllaw i'w gweithredu

22/09/06
Canllawiau i helpu awdurdodau lleol i sicrhau bod eu tenantiaid yn cymryd rhan yn y broses gynllunio er mwyn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.
 

Meithrin Gallu Tenantiaid a Safon Ansawdd Tai Cymru: Adnodd Hyfforddiant

22/09/06
Deunyddiau hyfforddiant i helpu pobl sy'n gweithio gyda thenantiaid. Diben yr Adnodd yw helpu tenantiaid i ddeall Safon Ansawdd Tai Cymru a sut y mae eu landlord yn bwriadu ei bodloni.
 

Pridiant cyfreithiol enghreifftiol i ddiogelu diddordeb Landlord Cymdeithasol Cofrestredig mewn eiddo a brynwyd drwy'r cynllun Cymorth Prynu

20/09/06
Dogfen ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yw hon i gofrestru eu diddordeb mewn eiddo a brynwyd drwy'r cynllun Cymorth Prynu. Rhaid i'r landlordiaid gofrestru eu diddordeb er mwyn diogelu eu benthyciad. Er enghraifft, mae'n dangos yn glir bod yn rhaid i'r prynwr gael can ...
 

Costau a manteision y Rhaglen Cefnogi Pobl

14/09/06
Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl yn cynorthwyo pobl sy’n agored i niwed i aros yn eu cartrefi eu hunain ac i gadw eu hannibyniaeth. Mae'r astudiaeth hon yn mesur costau a manteision y rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru.
 

Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref (Cymru) Adroddiad Blynyddol 2005/06

01/09/06
Bellach yn dechrau ei chweched blwyddyn, mae'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES) wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl ddiamddiffyn yng Nghymru.
 

Cynllun Gweithredu ar Dai i Ffoaduriaid

31/07/06
Mae'r ddogfen hon yn nodi'r camau a fydd yn cael eu cymryd i ddiwallu anghenion ffoaduriaid o ran tai a chymorth cysylltiedig. Mae'r cynllun hefyd yn darparu gwybodaeth am ddeddfwriaeth a pholisïau perthnasol.
 

Rheoli Risg Tai a Chyn-droseddwyr: Protocol Cyswllt Cymru

19/07/06
Ceir yn y ddogfen uchod (dogfen Saesneg yn unig yn dwyn y teitl Housing and Ex-Offenders Risk Management: The Link Protocol Wales) fframwaith er mwyn cynllunio ar gyfer anghenion tai cyn-droseddwyr sy'n dychwelyd i'r gymuned o'r carchar.
 

Protocol Gwaredu Tir ar gyfer Tai Fforddiadwy

28/06/06
Mae'r Protocol newydd hwn ar gyfer Gwaredu Tir Dros Ben yn ceisio gwneud y defnydd gorau o asedau Llywodraeth y Cynulliad er mwyn cyflawni'n blaenoriaethau tai.
 

Y Pecyn Cymorth Tai Fforddiadwy

28/06/06
Mae'r Pecyn Cymorth yn siop un stop sy'n rhoi cyngor ymarferol i awdurdodau lleol a'u partneriaid i'w helpu i sicrhau'r cyflenwad mwyaf posibl o dai fforddiadwy.
 

System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai: Canllawiau gweithredu

26/06/06
Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr ychwanegol i'r awdurdodau lleol i'w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai ac maent yn cael eu gwneud o dan adran 9 o Ddeddf Tai 2004.
 

System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai: Canlllawiau gorfodi

26/06/06
Mae'r canllawiau hyn yn hysbysu'r awdurdodau lleol am y dyletswyddau gorfodi a'r dewisiadau sydd ganddynt o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai ac maent yn cael eu gwneud o dan adran 9 o Ddeddf Tai 2004.
 

Rhentu Cartrefi: yr Adroddiad Terfynol

05/05/06
Ar 5 Mai 2006, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith adroddiad terfynol ar rentu cartrefi (Rhif 297 Comisiwn y Gyfraith).
 

Canllawiau ar ddatblygu tai gofal ychwanegol yng Nghymru

03/04/06
Mae tai gofal ychwanegol yn rhoi mwy o gymorth na thai gwarchod traddodiadol ac yn cynnig mwy o annibyniaeth na gofal preswyl.
 

Adolygu ac archwilio gwasanaethau a ddarparwyd drwy'r Grant Cefnogi Pobl: Canllawiau i Awdurdodau Lleol

03/04/06
Canllawiau (Saesneg yn unig) sy'n amlinellu'r broses adolygu parhaus. Mae'n disgrifio sut y dylid adolygu gwasanaethau tai â chymorth sy'n derbyn y Grant Cefnogi Pobl yn unol â manyleb y gwasanaeth.
 

Cod Rheoliadol ar Gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru

22/03/06
Mae’r Cod Rheoliadol hwn yn pennu rhwymedigaethau sylfaenol Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, y cyfeirir atynt gan ddefnyddio'r enw mwy cyfarwydd, "cymdeithasau tai".
 

Arweiniad i Asesu'r Farchnad Dai Leol

01/03/06
Mae'r arweiniad hwn yn galluogi awdurdodau lleol i olrhain ffigurau cyffredinol ar gyfer nifer yr aelwydydd lle y mae angen tai ychwanegol.
 

Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2006 - Crynodeb

01/03/06
Arweiniad ar y safonau y mae'n rhaid eu bodloni wrth ddarparu llety dros dro.
 

Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref (Cymru) Adroddiad Blynyddol 2004/05

09/01/06
Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi trefnu mesurau mewn dros 50,000 cartref ac wedi helpu miloedd o bobl mewn cymunedau ar draws y wlad i wella’u bywydau.
 

Strategaeth Digartrefedd Genedlaethol ar gyfer Cymru 2006-2008

01/11/05
Cyhoeddwyd ein Strategaeth Digartrefedd Genedlaethol gyntaf yn 2003 ac ynddi cyflwynwyd amcanion ac ymrwymiadau i weithio ag eraill i leihau digartrefedd. Gwnaeth Strategaeth 2006-2008 adeiladu ar y nodau hyn a'u cryfhau drwy roi mwy o bwyslais ar atal a gweithio ar y cyd.
 

Polisïau a Gweithdrefnau ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

01/07/05
Mae'r Cod hwn yn rhoi canllawiau ar sut y dylai landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru baratoi ac adolygu eu polisïau a'u gweithdrefnau mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
 

Gofynion Ansawdd Datblygu

01/07/05
Gofynion Ansawdd Datblygu (GAD) yw'r safonau y mae'n rhaid i dai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eu bodloni. Gelwir Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn Gymdeithasau Tai hefyd.
 

Mynd i'r afael â digartrefedd - Materion allweddol i'w hystyried gan awdurdodau lleol Cymru

08/06/05
Nod yr adroddiad hwn yw darparu cefndir a rhoi arweiniad defnyddiol iawn i’r awdurdodau lleol wrth iddynt fynd i’r afael â digartrefedd.
 

Y Swyddog Rhenti a Lwfansau Tai Lleol - Canllaw i Landlordiaid

06/06/05
Gwybodaeth yn esbonio i landlordiaid sut y mae'r Lwfans Tai Lleol yn gweithio. Mae'n esbonio sut y caiff ei gyfrifo a pham y caiff ei dalu'n arferol yn uniongyrchol i'r tenant.
 

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid: Arweiniad i ddarparwyr tai a gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru

08/03/05
Mae'r canllawiau hyn wedi'u hanelu at ddarparwyr llety. Mae hefyd wedi'i hanelu at asiantaethau sydd darparu tai a chymorth i geiswyr lloches sy'n cael penderfyniad cadarnhaol wrth geisio am loches.
 

Datblygu Partneriaethau: Dull newydd o ddosbarthu a chyflwyno Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol

01/03/05
Yn 2005 gwnaethpwyd newidiadau i'r ffordd y caiff y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol ei dosbarthu a'i chyflwyno.
 

Cymryd rhan: Safonau a chymorth ar gyfer grwpiau tenantiaid a phreswylwyr

03/01/05
Ffederasiwn Tenantiaid Cymru, Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi cynhyrchu'r daflen hon ar gyfer pobl sy'n ystyried sefydlu grŵp tenantiaid a phreswylwyr, aelodau grwpiau sydd eisoes wedi'u sefydlu. Mae wedi'i hanelu he ...
 

Gwasanaethau Cyfieithu a Dehongli: Arferion Da

01/10/04
Mae'r ddogfen hon yn sôn am anghenion ieithyddol pobl nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf ac yn rhoi canllawiau ar arferion da o ran darparu gwasanaethau dehongli a chyfieithu.
 

Atal digartrefedd

02/08/04
Mae’r nodyn cyngor hwn wedi cael ei lunio i roi gwybodaeth a chymorth i asiantaethau'r sector gwirfoddol yng Nghymru wrth ddatblygu ymyriadau i atal digartrefedd.
 

Defnyddio Tenantiaethau Rhagarweiniol a Chychwynnol

02/08/04
Dyfeisiwyd tenantiaethau rhagarweiniol/cychwynnol gyda’r bwriad clir o helpu landlordiaid i ymdrin â phroblemau cynyddol gyda honiadau o ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
 

Ymgynghori â phobl ddigartref

02/08/04
Ysgrifennwyd yr arweiniad hwn i helpu sefydliadau cyhoeddus a mudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru i ymgynghori â phobl ddigartref ynghylch cynllunio gwasanaethau, cyflwyno gwasanaethau a chanfod bylchau mewn gwasanaethau.
 

Tai Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME): Canllawiau Arferion Da ar gyfer Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai

01/07/04
Paratowyd y Canllawiau gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Chonsortiwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Cymru. Byddant yn helpu awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gyflawni eu cyfrifoldebau yn y Cynllun Gweithredu Tai i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.
 

Rhenti Teg: Rôl y Swyddog Rhenti a'r Pwyllgor Asesu Rhenti

01/04/04
Eglurhad am rôl y Swyddog Rhenti a'r Pwyllgor Asesu Rhenti wrth fynd ati i bennu Rhenti Teg.
 

Y Swyddog Rhenti a Budd-dal Tai

01/04/04
Esboniad o rôl y Swyddog Rhenti ym mhenderfyniad eich awdurdod lleol ynghylch faint o fudd-dal tai y byddwch yn ei gael.
 

Budd-dal Tai: Eglurhad am Ailbenderfyniadau a Phrisiadau Swyddogion Rhenti

31/03/04
Mae prisiadau swyddogion rhenti yn helpu'r awdurdodau lleol i benderfynu faint o fudd-dal tai a gewch. Os nad ydych yn fodlon â'r swm yr ydych yn ei gael, mae'r daflen hon yn egluro sut mae gofyn i'r Swyddogion Rhenti edrych eto ar y prisiadau.
 

Pecyn Cymorth Byw'n Gytûn

22/03/04
Canllawiau ar gyfer atal, rheoli a datrys anghydfod rhwng cymdogion.
 

Arweiniad ar Arferion Da Lleihau Gwastraff Adeiladu

25/02/04
Dyma arweiniad (dogfen Saesneg yn unig yn dwyn y teitil 'Construction Waste Minimisation Good Practice Guide') i helpu pawb sy'n ymwneud â gwaith adeiladu i leihau gwastraff.
 

Byw'n Gytûn: Beth i'w wneud ynglŷn ag anghydfod rhwng cymdogion

22/02/04
Cyngor ar sut i ddelio â phroblemau gyda chymydog.
 

Strategaethau Tai Lleol a Rôl y Sector Preifat

01/05/03
Lluniwyd y nodyn cyngor hwn ym mis Mai 2003 i ategu'r ddogfen 'Preparing Local Housing Strategies'.
 

Cymorth Prynu: Arweiniad i ymgeiswyr yng Nghymryu

29/04/03
Arweiniad i'r cynllun Cymorth Prynu yng Nghymru yw'r llyfryn hwn. Mae Cymorth Prynu yn helpu pobl i brynu cartref ar y farchnad agored.
 

Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000: Ymrwymiad Tlodi Tanwydd i Gymru

01/03/03
Ein cynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
 

Adnewyddu tai yn y sector preifat: Canllaw manwl

03/02/03
Canllaw yn hysbysu awdurdodau lleol sut maent yn gallu gwella tai yn y sector preifat sydd mewn cyflwr gwael.
 

Arweiniad i awdurdodau lleol ar y trefniadau i weithredu a gweinyddu'r rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru

01/02/03
Mae'r ddogfen uchod sef 'Guidance to local authorities on the arrangements for the implementation and administration of Supporting People in Wales' (Saesneg yn unig) yn esbonio sut y mae'r Rhaglen Cefnogi Pobl yn gweithio.
 

Arweiniad i Awdurdodau Lleol ar Baratoi Cynlluniau Busnes ar gyfer eu Stoc Dai

01/11/02
Dyma arweiniad (dogfen Saesneg yn unig) i awdurdodau lleol ar baratoi cynlluniau busnes ar gyfer stoc dai yr awdurdodau lleol. Mae'n cynnwys canllawiau ar lunio cynlluniau busnes mewn perthynas â'r Cyfrif Refeniw Tai.
 

Cynllun Gweithredu ar Dai i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

02/09/02
Cynlluniwyd y Cynllun Gweithredu hwn (dogfen Saesneg yn unig) er mwyn ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000.
 

Cynnwys Preswylwyr mewn Gwelliannau - Compendiwm Cytundeb Gweithiau Mawr

03/06/02
Cyngor ymarferol i helpu landlordiaid cymdeithasol i weithio gyda thenantiaid i ddatblygu Cytundebau Gwaith Mawr.
 

Cartrefi Gwell i Bobl Cymru

01/07/01
Cartrefi Gwell i Bobl Cymru oedd ein Strategaeth Dai Genedlaethol gyntaf.
 

Eich Hawliau fel Tenant Cyngor: Siarter y Tenant Cyngor

01/03/01
 

Arolygon Cyflwr Stoc - Canllaw

01/12/00
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys cyngor a chanllawiau ynglþn â'r broses o gynnal arolygon o gyflwr y stoc tai a reolir gan awdurdodau lleol. Ei nod yw cynorthwyo awdurdodau lleol i wella rheolaeth hirdymor eu stoc tai.
 

Compactau cyfranogiad tenantiaid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru

01/02/00
Mae'r cyfarwyddyd hwn yn egluro sut y gall awdurdodau lleol ledled Cymru sicrhau bod tenantiaid yn cymryd rhan yn llawn ac yn ystyrlon drwy gyflwyno compactau cyfranogiad tenantiaid.