Skip to content

Benthyca darbodus

Cipolwg ar sut y gall awdurdodau lleol godi arian ychwanegol at ddibenion gwariant cyfalaf. Gall 'benthyca darbodus' gynorthwyo awdurdodau lleol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a hefyd ei chynnal.

Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 yn pennu'r fframwaith cyfreithiol i lywodraeth leol ar gyfer gwariant cyfalaf. Mae'r Ddeddf hefyd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i reoleiddio materion cyllid cyfalaf yn unol â'r hyn sy'n briodol.

Mae Adran 3 o'r Ddeddf yn ei gwneud hi'n ofynnol bod yr holl fenthyca yn amodol ar asesiad i weld a ydyw'n fforddiadwy i’r  Awdurdod Lleol. Mae Adran 12 hefyd yn darparu ar gyfer pŵer cyffredinol sy'n caniatáu i awdurdod fuddsoddi adnoddau i gynnal ei wasanaethau neu ar gyfer cynnal gweithgareddau synhwyrol i reoli'r trysorlys.  
Bydd awdurdodau lleol yn gallu codi arian ychwanegol ar gyfer gwariant cyfalaf - heb ganiatâd penodol Llywodraeth y Cynulliad - sydd y tu hwnt i'r hyn a ddarparwyd eisoes gan y Cynulliad Cenedlaethol (hy Benthyca Darbodus), lle y maent yn gallu talu'r ddyled yn ôl o'u hadnoddau hwy eu hunain. Serch hynny, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau wrth gefn i bennu terfynau ar drefniadau benthyca a chredyd pob un o'r awdurdodau ar y cyd neu yn unigol, am resymau economiadd cenedlaethol. Serch hynny, rhagwelir mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol iawn y bydd y pwerau hyn yn cael eu defnyddio. Felly mae'r pwyslais ar allu'r awdurdod lleol i dalu yn ôl unrhyw fenthyciadau ychwanegol heb ofyn am gymorth ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i'r Fframwaith Darbodus eisoes wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda'r bwriad o esbonio'r hyblygrwydd a'r disgresiwn lleol sydd ar gael gan gadw'r camau diogelu angenrheidiol o ran lefelau benthyca'r sector cyhoeddus. Mae deddfwriaeth yn mynnu bod gweithgareddau'n ymwneud â'r Cyfrif Refeniw Tai (tai cyngor) a gweithgareddau eraill nad ydynt yn ymwneud â thai cyngor yn cael eu cadw ar wahân (neu eu neilltuo). Y reswm am hyn yw er mwyn sicrhau nad yw gweithgareddau sy'n ymwneud â thai cyngor yn derbyn cymhorthdal o ffynonellau sy'n deillio o gronfa'r Dreth Gyngor.

Wrth ystyried benthyciadau ychwanegol, bydd yr adnoddau refeniw a ddefnyddir i dalu'r ddyled yn ôl yn ystyriaeth bwysig. Gall awdudod gynnig i gynyddu'i ffrwd incwm refeniw drwy godi’r rhent ar ei denantiaid. Byddai cynnig o'r math hwn i godi rhenti y tu hwnt i'r canllawiau cymhorthdal rhent a benderfynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn galluogi'r awdurdod i hawlio cymorthdaliadau yn ôl ar raddfa symudol. Yn ymarferol felly, fe allai hyn olygu y byddai cynyddu'r rhent o ryw £1 y tu hwnt i'r canllawiau yn sicrhau rhyw 50c yn ychwanegol i'w ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau sy'n ymwneud â chyfrifon tai (gan gynnwys benthyciadau ychwanegol at ddibenion tai). Byddai'r ffigurau cywir yn amrywio o awdurdod i awdurdod gan ddibynnu ar ystod o ffactorau penodol sy'n ymwneud â sefyllfa'r Cyfrif Refeniw Tai. O ganlyniad mae'n ddigon posibl y bydd cynigion tebyg i godi rhenti y tu hwnt i'r hyn y gall y rhan fwyaf o denantiaid ei fforddio, os nad pob un ohonynt.

Fel arall, gall awdurdod geisio lleihau'r gwariant ar dai cyngor er mwyn sicrhau bod incwm dros ben er mwyn ariannu costau ad-dalu benthyca (darbodus) ychwanegol. Fe allai hyn arwain at leihad o ran cyflenwi gwasanaethau gweithrediadol gan felly fynd yn groes i amcanion benthyca ychwanegol. Fel arall, os gwelir y gellir gwneud arbedion effeithlon o ran gweithgareddau'r Adran Dai, gall yr arbedion a sicrhawyd gael eu defnyddio ar gyfer benthyciadau heb effeithio'n uniongyrchol ar y lefelau cyflenwi gwasanaeth.

Os bydd awdurdod lleol yn gallu dangos drwy Gynllun Busnes 30 blynedd cadarn a chyraeddiadwy ei fod yn gallu cynnal a chadw Safonau Ansawdd Tai Cymru drwy'r adnoddau sydd ar gael iddo (sy'n gallu cynnwys tybiaethau am fenthyca darbodus) yna mae Llywodraeth y Cynulliad yn barod i ardystio ei gynigion, ac mae wedi gwneud hynny sawl tro.