Skip to content

Datblygu dull o ddyrannu cyllid i’r awdurdodau lleol o dan y rhaglen Cefnogi Pobl

Dolenni perthnasol

Cefnogi Pobl yw ein fframwaith polisi ac ariannu ar gyfer darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai i bobl fregus.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cafodd yr adroddiad hwn ei gomisiynu er mwyn ymchwilio i fodelau ar gyfer dyrannu cyllid i'r awdurdodau lleol o dan y rhaglen Cefnogi Pobl.

Un o raglenni Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Cefnogi Pobl, a'i diben yw ariannu gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai ar gyfer pobl sy'n agored i niwed.

Ar hyn o bryd, caiff y cyllid ei ddyrannu i'r awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau yn seiliedig ar batrymau gwariant blaenorol.

Mae'r adroddiad yn ymchwilio i'r pedwar model canlynol:

  • dyrannu hanesyddol;
  • dyfarnu gwybodus;
  • dyraniadau ar gyfer gwasanaethau tebyg;
  • dadansoddiad ystadegol o anghenion a chostau.

Mae'r adroddiad hefyd yn dadansoddi cryfderau a gwendidau pob system ac yn cyflwyno argymhellion ar gyfer dyfodol mewn perthynas â chyllid y rhaglen Cefnogi Pobl ar draws pob awdurdod lleol.