Skip to content

Diweddariad o Gynllun Gweithredu ac Amserlen y Strategaeth Genedlaethol ar Gyfranogiad Tenantiaid - Mehefin 2009

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth am sut y gall landlordiaid a thenantiaid gydweithio i reoli eu cartrefi.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd y Strategaeth Genedlaethol ar Gyfranogiad Tenantiaid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ebrill 2007. Mae’r Strategaeth yn nodi sut gall y sector tai cymdeithasol wella gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau bod pobl yn ganolog i’r sector. Roedd y Strategaeth yn cynnwys Cynllun Gweithredu gydag amcanion manwl.

Bydd yr amcanion hyn yn helpu i ddatblygu polisïau tai cymdeithasol ac yn cynorthwyo landlordiaid i ddatblygu a hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid.

Yn ystod hydref 2008, sefydlwyd grŵp llywio i roi cyngor i Lywodraeth y Cynulliad er mwyn ei helpu i gyflawni ei nodau a’i hamcanion.  Mae’r grŵp hwn wedi cynorthwyo â’r broses o adolygu a diweddaru Cynllun Gweithredu ac Amserlen y Strategaeth Genedlaethol ar Gyfranogiad Tenantiaid.