Skip to content

Rhentu tai cymdeithasol

Dolenni perthnasol

Gyda diolch i Bartneriaeth Tai Cymru a Tai Clwyd, mae bywydau Carol Ratchford a’i theulu wedi’u trawsnewid.
Tŷ.
Os nad ydych chi’n gallu fforddio prynu eich cartref eich hun na rhentu’n breifat, efallai y bydd landlord cymdeithasol yn gallu eich helpu. Mae landlordiaid cymdeithasol yn codi llai o rent na landlordiaid preifat am y cartrefi maent yn eu darparu.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn landlord cymdeithasol ac nid yw’n darparu tai cymdeithasol yn uniongyrchol. Serch hynny, mae gennym gyfrifoldeb i gynorthwyo ac annog landlordiaid cymdeithasol i ddarparu cartrefi o ansawdd da. Y ddau brif fath o landlord cymdeithasol yng Nghymru yw’r awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Rydym yn annog tenantiaid i siarad â’u landlordiaid ac i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cartrefi a’u cymunedau. Mae grantiau a chymorth ar gael i helpu tenantaid gymryd rhan lawnach yn y broses hon.