Skip to content

Safon Ansawdd Tai Cymru

Dolenni perthnasol

Rydym wedi monitro perfformiad cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol wrth iddyn nhw weithio i sicrhau bod eu tai presennol yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.
Yn cynnwys cyfarwyddiadau manwl sy’n dweud wrth landlordiaid cymdeithasol beth y dylent ei wneud i wella cyflwr ffisegol eu heiddo.
Cipolwg ar sut y gall awdurdodau lleol godi arian ychwanegol at ddibenion gwariant cyfalaf.
Tŷ.

Credwn y dylai pawb yng Nghymru gael y cyfle i fyw mewn cartref o ansawdd da mewn cymuned ddiogel. Er mwyn helpu i sicrhau hyn rhaid cynnal a gwella safon a chyflwr y tai hyn fel eu bod yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (y Safon).

Rydym yn disgwyl i holl landlordiaid cymdeithasol Cymru fabwysiadu’r Safon a llunio rhaglenni realistig i sicrhau bod eu heiddo i gyd yn cydymffurfio â’r Safon erbyn diwedd 2012 neu erbyn dyddiad y cytunir arno â Gweinidogion Cymru.

Bwriad y Safon yw helpu landlordiaid cymdeithasol i asesu eu stoc dai. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar wahân i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol.