Skip to content

Adolygiad Essex

Dolenni perthnasol

Mae'n tynnu sylw at ei llwyddiannau a'r gwersi sydd angen eu dysgu.
Lluniodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen adroddiad terfynol a chrynodeb ym mis Mehefin 2008.

Cyhoeddwyd Adroddiad Essex ar dai fforddiadwy yng Nghymru yn 2008. Dangosodd yr adroddiad fod angen mynd ati ar fyrder i wneud newidiadau eang i’r ffordd y caiff tai fforddiadwy eu rheoleiddio, eu hariannu, eu hasesu a’u cyflenwi yng Nghymru.

Gwnaeth yr adroddiad 43 o argymhellion a oedd yn seiliedig ar weithio mewn partneriaeth a chydweithio â rhanddeiliaid tai.

Arweiniodd hyn at ddull mwy arloesol o weithio a oedd yn seiliedig ar fodel Beecham ar gyfer llywodraeth ddatganoledig lwyddiannus, sef cydweithio heb fiwrocratiaeth, ac mewn ffordd a oedd yn gallu ymateb yn effeithiol i Gymru sy'n newid.

Roeddd y dull hwn o weithio yn cynnwys:

  • canolbwyntio ar newid cyfeiriad a diwylliannau;
  • rhanddeiliaid yn cydweithio i roi’r newidiadau ar waith yn sgil yr argymhellion;
  • rhaglen ffurfiol ac iddi ffrydiau gwaith prosiect;
  • ystyried a blaenoriaethu argymhellion o ran eu heffaith ar newid ac o ran a oedd angen gweithredu ar fyrder;
  • cyfranogwyr yn rhannu perchnogaeth ar y rhaglen yn hytrach na gweithredu fel ymgynghorwyr.