Skip to content

Adfywio a datblygu cymunedol

Dolenni perthnasol

Drwy’r gronfa hon, gallwch wneud cais am welliannau i ymddangosiad swyddfeydd post e.e. gwella cownteri, arwyddion, gwelliannau esthetig ac ati nas ariennir gan Swyddfa’r Post Cyfyngedig.
Bwriad y strategaeth gymunedol yw dwyn ynghyd bawb a all gyfrannu at ddyfodol y cymunedau sydd o fewn ardal yr awdurdod lleol.
Rydym wedi nodi nifer o ardaloedd ledled Cymru yr ydym yn eu hadfywio.
Machlud haul dros Gulfor Menai yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru.

Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yw gwlad sydd â chymunedau cadarn, diogel y bydd pobl am fyw ynddynt, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae gan Gymru draddodiad byw o hunaniaeth gymunedol a helpu'i hun. Rydym am adeiladu ar yr hunaniaeth hon drwy roi'r hyder i bobl ddatblygu atebion lleol i broblemau'r gymuned, a thrwy roi'r arian a'r cymorth iddynt wneud hynny.

Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anfantais gymdeithasol, lleihau tlodi a helpu i wella bywydau pobl sy'n byw yn ardaloedd tlotaf Cymru. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn Rhaglen ar gyfer Cymru gyfan, ac mae'n gosod y seiliau ar gyfer adfywio cymunedol. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn yn cael ei wneud yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru er mwyn hyrwyddo gwelliannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae amddifadedd i'w weld yn bennaf yng Nghymru mewn ardaloedd tlawd yng nghanol dinasoedd, yn rhannau o Gymoedd y De ac mewn trefi a phorthladdoedd ar yr arfordir. Trwy ddiffinio'r ardaloedd hyn yn glir, gallwn dargedu'r adnoddau i'r mannau hynny lle y mae eu hangen fwyaf.

Y nod yw cefnogi unigolion a chymunedau i fynd i'r afael â'r ffactorau sy'n atal pethau rhag gwella. Mae ein hymrwymiadau yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r materion sy'n gallu cael yr effaith fwyaf andwyol ar fywydau bob dydd pobl, ac ar gefnogi gwaith mewn cymunedau lleol.