Skip to content

Gweithlu Datblygu Cymunedol

Dolenni perthnasol

Mae'r cynllun hwn yn disgrifio prif amcanion ein hymrwymiad i atal tlodi, i helpu pobl i oresgyn tlodi ac i leddfu effaith tlodi.
Canllawiau a gwybodaeth.
Ymgynghoriad yn gofyn am eich barn ar y newidiadau a gynigir i raglen Cymunedau yn Gyntaf.

Mae’r Gweithlu Datblygu Cymunedol yn cynnwys unigolion ag amrywiaeth enfawr o sgiliau a nodweddion gan gynnwys llawer o gymwysterau gwahanol.

Yn ganolog i ymarfer Datblygu Cymunedol da mae gweithlu â sgiliau a all weithio gyda chymunedau i'w galluogi i chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cyfranogi yn y materion sy'n effeithio ar eu bywydau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol i gynllunio 'Gweithio gyda Chymunedau' sy'n egluro gweledigaeth Llywodraeth Cymru a'r camau allweddol i gefnogi a datblygu'r gweithlu Datblygu Cymunedol yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cyllido Datblygu Cymunedol Cymru i gynorthwyo â gweithredu'r Cynllun Gweithredu Gweithio gyda Chymunedau.

Mae hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a bydd cymorth pellach yn cael ei sicrhau i'r gwaith hwn yn y dyfodol agos.