Skip to content

Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf

Dolenni perthnasol

Mae'r cynllun hwn yn disgrifio prif amcanion ein hymrwymiad i atal tlodi, i helpu pobl i oresgyn tlodi ac i leddfu effaith tlodi.
Canllawiau a gwybodaeth.
Ymgynghoriad yn gofyn am eich barn ar y newidiadau a gynigir i raglen Cymunedau yn Gyntaf.

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf yn darparu grantiau bach i gyrff cymunedol a gwirfoddol bach mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

 Bu Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf yn weithredol er 2001 ac mae'n galluogi i grwpiau cymunedol bach gael cyllid ar gyfer gweithgareddau a phrosiectau fydd yn eu caniatáu i barhau i wirfoddoli a gweithgareddau eraill sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at y gymuned. Ers iddi gael ei sefydlu, mae'r Gronfa Ymddiriedolaeth wedi cefnogi gweithgareddau yn agos i 10,000 o grwpiau, gan gynnwys glanhau ystadau lleol, digwyddiadau rhyngddiwylliannol a chymunedol a phrynu cyfarpar a chyfleusterau i'r gymuned.

Diben y cynllun yw cefnogi unrhyw fath o weithgaredd sy'n cynnwys pobl leol, drwy sefydliadau cymunedol bach, sydd er budd eu cymuned. Rhaid i'r gweithgareddau ddarparu mesur o fudd economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol neu ddiwylliannol i bobl sy'n byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf. Mae'r holl ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ar draws Cymru yn gymwys i dderbyn cefnogaeth gan Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf .

Caiff y Gronfa Llywodraeth Cymru ei gweinyddu ar hyn o bryd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Ceir arweiniad a meini prawf llawn ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf ar wefan CGGC.

Nid yw Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd yn derbyn ceisiadau oherwydd adlinio Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Bydd manylion am y cynllun newydd ar gael yn fuan.