Skip to content

Ein haddewid

Er 2000, rydym wedi buddsoddi mewn undebau credyd, gan gydnabod y cyfraniad pwysig y mae modd ei wneud i fynd i'r afael ag allgáu ariannol, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig.

Mae ein Rhaglen lywodraethu bresennol yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu ein Mynediad i Gynhyrchion Ariannol trwy’r Prosiect Undebau Credyd

Rydym wedi ymrwymo i wireddu gweledigaeth yr ydym yn ei rhannu gyda'r undebau credyd yng Nghymru. Y weledigaeth hon yw mudiad effeithiol a chynaliadwy sy'n cael ei reoli'n dda, sydd â digon o adnoddau ac sy'n cynnwys pawb sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru ac sydd ar gael iddynt, er mwyn darparu cynhyrchion a gwasanaethau ariannol credadwy a phroffesiynol.

Mewn deng mlynedd, mae £4.8 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn undebau credyd, heb gyfrif yr arian y mae Llywodraeth y DU wedi'i fuddsoddi'n uniongyrchol. Mae hynny'n cynnwys:

  • £2.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd ar y cyd i ddatblygu undebau credyd cynaliadwy
  • £1.25 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Undebau Credyd ar gael i ragor o bobl a'u bod ar gael i ddisgyblion ysgolion uwchradd ac i ddarparu Cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Mynediad i Gynhyrchion Ariannol trwy’r Prosiect Undebau Credyd

Yn 2009/2010, cafodd £750,000 pellach ei gyfrannu gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â Chyllid Ewropeaidd yn 2009/2010 i gyflenwi cam 1 o  “Mynediad i Gynhyrchion Ariannol trwy Undebau Credyd”.

Dechreuodd cam dau o’r prosiect hwn yn 2010, gan ddenu arian pellach o £4.056 miliwn tan 2013. Nod y prosiect yw helpu undebau credyd i fod yn gryf, yn gadarn ac yn effeithiol yng Nghymru, gan ddarparu gwasanaethau ariannol fforddiadwy sydd ar gael yn rhwydd i ddinasyddion ledled Cymru, yn enwedig y bobl fwyaf anghenus.

Rhwng Ebrill  2009 a Medi 2010, darparodd Undebau Credyd sy’n cymryd rhan yn y prosiect wasanaethau i fwy na 4300 o oedolion sydd wedi’u heithrio yn ariannol a 482 o gynilwyr newydd. Ers Hydref 2010 mae 15 o undebau credyd wedi helpu mwy na 4900 o bobl sy’n bodloni’r diffiniad o bobl sydd wedi’u heithrio yn ariannol i gael  mynediad i gynhyrchion ariannol sy’n syml, yn dryloyw ac yn fforddiadwy. Mae undebau credyd bellach wedi recriwtio mwy na 1400 o gynilwyr iau newydd ledled Cymry ers mis Hydref 2010.

Rydym wedi caffael gwasanaethau cymorth busnes ar gyfer undebau credyd i helpu i weithredu cam dau o’r prosiect i sicrhau bod gwasanaethau ariannol ar gael trwy undebau credyd. Mae'r contract wedi'i roi i gwmni Social Investment Business a bydd yn ddilys tan ddiwedd 2013.