Skip to content

Cynhwysiant digidol

Dolenni perthnasol

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno synthesis o dystiolaeth sydd ar gael ar gynhwysiant digidol ac ymgysylltu yng Nghymru.
Mae'r Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol yn dilyn Sicrhau Cynhwysiant Digidol: Fframwaith Strategol i Gymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010.
Mae Cymru Ddigidol yn amlinellu dyfodol digidol disgleiriach i bawb yng Nghymru.
Er mwyn bod yn genedl wirioneddol ddigidol sy’n elwa ar fanteision economaidd a chymdeithasol eang, mae’n gwbl hanfodol cael seilwaith digidol hyblyg sy’n gallu cystadlu’n fyd-eang.
Hen bobl yn defnyddio cyfrifiaduron

Mae mynediad at y rhyngrwyd ynghyd â'r sgiliau i'w defnyddio bellach yn bwysicach nag erioed.

Mae sawl agwedd ar ein cymdeithas a'n heconomi bellach yn ddigidol - hysbysebion a cheisiadau ar gyfer swyddi, nwyddau a gwasanaethau ac yn fwyfwy aml wasanaethau cyhoeddus gan gynnwys budd-daliadau a gwiriadau iechyd. Mae pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yn fwy tebygol o gael eu hallgáu'n gymdeithasol ac o ddioddef o dlodi.

Gall y rhyngrwyd fod o fudd i bawb, gan roi'r sgiliau a'r hyder ar gyfer gwella eu bywydau. Gall defnyddio'r rhyngrwyd hefyd helpu i leihau teimladau o arwahanrwydd, gan alluogi pobl i fyw'n fwy annibynnol.  Mae'n sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed ac yn rhoi cyfle i bawb chwarae rhan fwy amlwg o fewn eu cymdeithas gan helpu i ddylanwadu ar eu bywydau hwy a bywydau'r rhai o fewn eu cymunedau.

Mae pobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd yn colli'r cyfle i fanteisio ar nwyddau a gwasanaethau sy'n rhatach ac yn haws i'w cael, gan gynnwys pethau hanfodol fel biliau tanwydd a dillad. Yn aml nid yw'r cynigion gorau ond ar gael ar-lein. Mae plant sy'n byw mewn cartrefi lle nad oes modd iddynt ddefnyddio'r technolegau digidol diweddaraf yn llai tebygol o ddysgu a datblygu'r sgiliau hanfodol ar gyfer byw a gweithio o fewn cymdeithas. Golyga'r ffaith bod mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus bellach ar-lein, gan gynnwys y Credyd Cynhwysol o fis Hydref 2013, ei bod yn bwysig iawn nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl.  

Mae ein gwaith ym maes cynhwysiant digidol yn seiliedig ar egwyddorion sylfaenol cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, a cheir cysylltiad cryf â Threchu Tlodi a blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru.  Rydym yn cefnogi'r bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu hallgáu'n ddigidol.  Awgryma'r dystiolaeth hon fod y bobl hyn yn fwy tebygol o fod yn bobl hŷn; yn bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol; yn bobl ddi-waith ac yn bobl anabl. Rydym yn canolbwyntio ar y grwpiau hyn fel y gallant wella ansawdd eu bywydau a'u cyfleoedd mewn bywyd drwy elwa ar yr hyn y gall y rhyngrwyd ei gynnig.

Ym mis Rhagfyr 2010 lansiodd Llywodraeth Cymru Sicrhau Cynhwysiant Digidol: Fframwaith Strategol i Gymru a oedd yn cynnig gweledigaeth a rannwyd o alluogi nifer cynyddol o bobl i ddefnyddio'r rhyngrwyd. Dadansoddodd pa bobl a oedd wedi'u hallgáu, disgrifiodd y rhwystrau yr oeddent yn eu hwynebu a nododd y camau a allai gael eu cymryd er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r materion perthnasol.  Roedd y Fframwaith yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi arweiniad strategol er mwyn mynd i'r afael ag allgau digidol, ond cydnabuwyd hefyd na ellir ond cyflawni cynhwysiant digidol drwy gydweithio ar draws y sector preifat, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus. Dyma agenda drawsbynciol y mae angen ei phrif ffrydio ar draws cymdeithas.  

Lansiwyd y Cynllun Cyflenwi ar gyfer y Fframwaith Cynhwysiant Digidol ym mis Mawrth 2011 a noda'r tasgau i'w cwblhau, y canlyniadau bwriedig a'r targedau ar gyfer 2012 a 2015 lle y bo'n bosibl. Mae'n gosod targedau ar gyfer lleihau nifer yr oedolion , nifer y bobl ddi-waith, nifer y bobl economaidd anweithgar a hefyd nifer y bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol yng Nghymru sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.  Mae'r cynllun yn rhestru 15 o amcanion allweddol ynghyd â'r tasgau sydd ynghlwm wrth eu cyflawni. Mae chwech o'r amcanion hyn yn rhan o Gynllun Cyflenwi Cymru Ddigidol a gyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2011, ynghyd â nodau allweddol o agweddau eraill ar Gymru Ddigidol.

Prif ymateb Llywodraeth Cymru i allgau digidol yw'r rhaglen Cymunedau 2.0 gwerth £21 miliwn a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae'r rhaglen hon eisoes wedi cynorthwyo dros 23,000 o bobl i fynd ar-lein. Mae'r rhaglen ar waith o fis Ebrill 2009 hyd fis Mawrth 2015 o fewn ardaloedd cydgyfeirio Cymru, gogledd-ddwyrain Cymru a Phowys. Mae'n targedu'n benodol y grwpiau o fewn cymdeithas sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol i'r graddau mwyaf, gan eu helpu i orchfygu rhwystrau, cynyddu eu hyder a chreu cyfleoedd iddynt ddefnyddio sgiliau newydd. Mae hefyd yn cynorthwyo mentrau cymdeithasol a microfentrau newydd er mwyn gwella eu dulliau gweithredu a'u gallu i gystadlu drwy TGCh.

Caiff y rhaglen ei gweithredu gan gonsortiwm o bedwar sefydliad a arweinir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cymunedau 2.0 (dolen allanol).

Mae Uned Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru a'n rhaglen gyflenwi, Cymunedau 2.0, yn parhau i gysoni polisïau a meithrin cysylltiadau strategol â sefydliadau allweddol sy'n cynrychioli'r bobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol i'r graddau mwyaf ac sy'n cydweithio â hwy.  Mae'r rhain yn cynnwys Age Cymru, Anabledd Cymru, RNIB, Shelter, Gofal a Thrwsio, awdurdodau lleol, llyfrgelloedd, Y Ganolfan Byd Gwaith, Galw Iechyd Cymru, cymdeithasau tai a chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf. Mae llawer o'r rhain ynghlwm wrth fentrau strategol a ariennir gan Cymunedau 2.0.

Dolenni Allanol