Skip to content

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ar Gynhwysiant Ariannol ac effaith Addysg Ariannol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ym mis Tachwedd 2010, adroddodd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, fel yr oedd ar y pryd, ar ei ymchwiliad i Gynhwysiant Ariannol ac effaith Addysg Ariannol.

Mae tlodi ac allgáu ariannol yn parhau’n heriau sylweddol i’r Llywodraeth a’i phartneriaid statudol, yn arbennig yn yr hinsawdd ariannol bresennol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau tlodi, yn arbennig tlodi parhaus ymysg rhai o’r bobl a’r cymunedau mwyaf tlawd, ac i leihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yn mynd yn dlawd. Bydd datblygu Cynllun Gweithredu Gwrth-dlodi erbyn mis Mawrth 2012 yn tynnu ynghyd yr holl ysgogiadau polisi yn Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid statudol i helpu cymunedau ac unigolion i ddianc rhag tlodi. Bydd datblygu Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Cymru yn rhan allweddol o’r gwaith hwn.