Skip to content

Sicrhau Cynhwysiant Digidol: Fframwaith Strategol ar gyfer Cymru

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i helpu i ddileu’r rhwystrau a wynebir gan y 900,000 o oedolion sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yng Nghymru.
Rydyn ni'n ymrwymedig i fynd i'r afael ag allgáu digidol fel y'i adlewyrchir yn ei menter 2.0 a'i Fframwaith Cynhwysiant Digidol.
Fframwaith Amlinellol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithredu er mwyn sicrhau dyfodol digidol disgleiriach i bawb yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Delivering Digital Inclusion: A Strategic Framework for Wales (‘the Framework’) recognises that, hitherto, there has not been a vision for achieving the digital inclusion of people in Wales, nor targets set.

Drwy’r ddogfen hon, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n datgan ei bwriad i roi arweiniad strategol clir, ond yn dweud na ellir gwneud cynnydd heb sicrhau ymdrechion y trydydd sector a’r sectorau preifat a chyhoeddus ar y cyd – ni all Llywodraeth y Cynulliad gyflawni hyn ar ei phen ei hun. Mae’r ddogfen yn pwysleisio’r angen am ymrwymiad a chefnogaeth i’r weledigaeth hon gan amrywiaeth eang o randdeiliaid.

Ymgynghorwyd ynghylch y Fframwaith rhwng mis Mehefin a mis Medi 2010. Roedd mwyafrif llethol yr ymatebion a ddaeth i law - i’r ymgynghoriad ei hun, mewn cyfarfodydd eraill ledled Cymru, ac yn yr ymatebion ysgrifenedig - yn rhai
cadarnhaol. Cafwyd awgrymiadau a syniadau da ynghylch sut y gellid bwrw ymlaen â gweithgarwch i sicrhau cynhwysiant digidol yng Nghymru. Mae llawer ohonynt wedi’u cynnwys yn y Fframwaith hwn, ac mae’r ddogfen yn well o’r herwydd.

Gan fod hwn yn faes sy’n newid yn gyflym, mae angen i’r Fframwaith barhau i esblygu er mwyn bod yn gyfredol o ran y ffordd y mae’n ymdrin â materion a thechnolegau wrth i wasanaethau addasu ac uno, newid a chydgyfeirio. Bydd
datblygiadau’n cael eu hadolygu’n gyson, a bydd y Fframwaith yn cael ei addasu yn unol â hynny.  Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygu cynllun cyflawni yn y Flwyddyn Newydd a fydd yn amlinellu’r tasgau y bwriedir ymgymryd â hwy, yn ogystal â’r canlyniadau a fwriedir.