Skip to content

Caffael

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau’r gwerth gorau am arian yn ein holl wasanaethau cyhoeddus.
Y bwriad yw cynorthwyo darpar gyflenwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru, drwy esbonio proses gaffael Llywodraeth Cymru ar gyfer nwyddau a gwasanaethau.
Y Siarter ar gyfer Caffael sy’n gyfeillgar i fusnesau bach a chanolig.

Helpu mentrau cymdeithasol i sicrhau busnes.

Un o'n nodau allweddol yw gwella'r cyfleoedd sydd gan fentrau cymdeithasol i sicrhau busnes o'r sectorau preifat a chyhoeddus. Rydym yn bwriadu gwneud hyn drwy:

  • Wella arbenigedd o fewn mentrau cymdeithasol i geisio am gontractau a'u cyflenwi.
  • Codi ymwyddiaeth am y manteision o sicrhau contractau gyda mentrau cymdeithasol.

Gwerth Cymru

Mae Gwerth Cymru wedi llunio canllawiau caffael a fydd o ddefnydd ar gyfer caffael cynnyrch a gwasanaethau mentrau cymdeithasol. Mae’r siarter ‘Agor Drysau’ a’r dogfennau ‘Caffael a’r Trydydd Sector’ ar gael o’r ddolen ar ochr dde’r dudalen hon.

Cyfleoedd caffael i fentrau cymdeithasol

Gwasanaeth ar-lein am ddim gan Lywodraeth Cymru yw GwerthwchiGymru. Mae’n ceisio helpu mentrau bach a chanolig i weithio’n llwyddiannus gyda chleientiaid y sector cyhoeddus. Nod y wefan yw rhestru holl gontractau’r sector cyhoeddus sy’n cael eu hysbysebu yng Nghymru.

Cyrff cymorth mentrau cymdeithasol

Rydym yn rhoi cyllid i gyrff cymorth arbenigol ar gyfer mentrau cymdeithasol sy’n gallu helpu gyda chyfleoedd caffael. Mae rhagor o wybodaeth a dolenni i’r mudiadau rydym yn eu cefnogi ar gael ar y dudalen ‘Cyrff cymorth’.