Skip to content

Y Prosiect Cymorth i Fentrau Cymdeithasol

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae Canolfan Gydweithredol Cymru wedi cael arian Cydgyfeirio a Chystadleurwydd i helpu mentrau cymdeithasol i ddatblygu.

Mae gan y prosiectau hyn gyfanswm cyllideb o £8 miliwn ac maent yn cael arian cyfatebol o £3.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae gan y prosiect dargedau heriol i'w cyrraedd drwy roi cymorth i fentrau cymdeithasol mewn dwy ffordd:

  • Codi ymwybyddiaeth o gyfraniad mentrau cymdeithasol (gan gynnwys cwmnïau cydweithredol) at adfywio cymdeithasol ac economaidd
  • Rhoi cyngor a chymorth i fentrau cymdeithasol, gwasanaethau mentora, hyfforddiant a chyfeirio at asiantaethau cymorth eraill. Darperir gwasanaethau gan ystod o sefydliadau sy'n cael eu recriwtio drwy broses gaffael agored drwy GwerthwchiGymru.  

I gael rhagor o fanylion, ewch i wefan Canolfan Gydweithredol Cymru (dolen allanol).