Skip to content

Cynhwysiant Digidol: Pecyn Dadansoddi

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno darganfyddiadau o'r ail gyfnod pennaf o ymchwil, gan edrych ar y themâu o berthnasau llywodraeth ganolog - lleol, ymrwymiad dinesydd a chydweithio.

Cynhaliwyd rhaglen waith ddadansoddol yn cynnwys yr elfennau canlynol, sydd â chysylltiad agos â’i gilydd ac yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad cyfunol hwn:

  • Adolygiad o dystiolaeth - Asesiad o’r dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn â manteision cynhwysiant digidol, goblygiadau allgáu digidol, a’r nodweddion economaidd-gymdeithasol a demograffig sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg ddigidol;
  • Dadansoddiad ystadegol - Dadansoddiad ystadegol o ddata ar lefel Cymru i nodi’r cysylltiadau rhwng defnyddio technoleg ddigidol a nodweddion economaidd-gymdeithasol a demograffig. Bu’r adolygiad o dystiolaeth yn gymorth i bennu pa nodweddion a gafodd eu cynnwys fel newidynnau yn y dadansoddiadau dilynol;
  • Mapio ardaloedd bach - Dadansoddi a mapio cynhwysiant ac allgáu digidol yng Nghymru ar lefel ardaloedd bach; a phroffiliau o boblogaethau sydd wedi’u cynnwys yn ddigidol a’r rhai sydd wedi’u
    hallgáu’n ddigidol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.