Cronfa Syniadau Newydd - gwaith ymchwil a gwblhawyd
Diweddarwyd 27 Hydref 2006
Mae'r Gronfa Syniadau Newydd yn cefnogi prosiectau ymchwil bach drwy roi hyd at £10,000 i bob prosiect llwyddiannus.
Pan fydd y sawl a fydd yn derbyn grant wedi cwblhau prosiect cawn gopi o'r adroddiad terfynol. Fe'u gwelwch isod.
05/01/11
Cafodd y gwaith ymchwil hwn ei wneud gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a chafodd ei ariannu drwy gylch ceisiadau 2009 ar gyfer grant ymchwil y Gronfa Syniadau Newydd.
30/12/10
Arolwg i ddynodi cyflawniad ac effaith y llwybr gofal cynenedigol ar gyfer cam-drin domestig mewn ymarfer a thrwy fynegiadau a phrofiad menywod sydd wedi profi cam-drin domestig.
04/06/10
Astudiaeth ymchwil sy'n archwilio'r cymorth ariannol sydd ar gael i bobl ifanc sy'n gadael gofal.
12/03/10
Astudiaeth i fewn i rwystrau cynhwysiant a wynebwyd gan pobl byddar a trwm eu clyw yng Nghymru pob dydd, mewn perthynas a gwasanaethau cyhoeddus, trafnidiaeth, gweithgareddau adloniont ac hamdden a chyflogaeth ac hyfforddiant.
11/03/10
Cynhaliwyd yr astudiaeth hon o ganlyniad i bryderon na fanteisiwyd yn llawn eto ar y posibiliadau ar gyfer gwaith partneriaeth i wella profiadau a chanlyniadau plant sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Mae'r adroddiad yn ystyried profiadau dau awdurdod lleol.
11/03/10
Prif ganfyddiadau o brosiect i ymchwilio'r pwysigrwydd o agostarwydd a gwrthdaro teuluol, monitro ag agweddau rhieni a hanes camddefnyddio sylweddau teuluol, mewn perthynas ag ymddygiad yfed pobl ifanc.
18/02/10
Dyma astudiaeth ar y cyd a gaiff ei ariannu gan y Gronfa Syniadau Newydd a'i arwain gan yr Uned Pobl a Gwaith gan weithio mewn partneriaeth â Phartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf a'r Athro David Egan o'r Ganolfan Ymchwil Addysg Gymhwysol yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd.
18/02/10
Cafodd y darn hwn o ymchwil ei ariannu gan y Gronfa Syniadau Newydd yn 2009 a gwnaed yr ymchwil gan Sefydliad Gwyddorau Heddlu’r Prifysgolion.
15/01/10
Comisiynwyd y prosiect ymchwil hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o ganlyniad i bryderon a fynegwyd yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol am lefel y galw am dai a gynhyrchwyd gan aelwydydd mudol mewn ardaloedd penodol (a’r ardaloedd arfordirol a gwledig yn benodol) yng Nghymru.
16/12/09
Mae Talu’r Pris am Fod yn Dlawd yn edrych ar yr hyn y dylid ei wneud i helpu teuluoedd ar incwm isel sy’n cael eu cosbi, dim ond am nad oes ganddynt rym gwario.
22/10/09
Yr oedd y gwaith ymchwil hwn, a ariannwyd gan Gronfa Syniadau Newydd yr Adran dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, yn cynnwys arolwg o ddarparwyr gofal plant ynghyd â chyfweld â rhieni.
22/10/09
Cynhaliwyd y gwaith ymchwil hwn, a noddwyd gan Gronfa Syniadau Newydd yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, gan Race Equality First.
29/09/09
Roedd y prosiect hwn yn cynnwys gwerthusiad peilot o'r fenter Byw'n Ddi-fwg - ymgyrch gyhoeddusrwydd wedi'i hanelu at godi ymwybyddiaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig ag ysmygu yn y cartref a darbwyllo ysmygwyr i newid eu hymddygiad.
26/08/09
Bwriad y canllaw hwn yw rhannu’r gwersi y mae sefydliadau sydd wedi bod trwy broses o drosglwyddo stoc wedi’u dysgu gyda sefydliadau sydd ar fin mynd trwy broses debyg.
26/08/09
Mae'r astudiaeth hon yn archwilio'r heriau ariannol sy'n wynebu'r trydydd sector yng Nghymru ac yn awgrymu ffyrdd o gynyddu’r arian sydd ar gael iddo ac annog datblygiadau.
22/04/09
Adroddiad terfynol prosiect i ymchwilio i fuddioldeb casglu a dadansoddi data am osod a gwerthu tai cymdeithasol yng Nghymru.
03/12/08
Mae'r astudiaeth ymchwil hon yn edrych ar sut yr aed ati i weithredu a darparu Rhaglen Cynnwys Ieuenctid ym Mhenparcau ac yn ardal Ucheldir Tregaron yng Ngheredigion. Mae'r ymchwil yn amlinellu'r amrywiaeth o sialensiau y deuir ar eu traws yn ystod cam datblygu'r Rhaglen Cynnwys Ieu
...
17/07/08
Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu ystod y dulliau a'r arferion o weithredu'r safon amgylcheddol gan gyfeirio at sampl o awdurdodau lleol sy'n cadw eu stoc dai neu sydd wrthi'n ei throsglwyddo; yn pwyso a mesur arferion da mewn ystod o brosiectau amgylcheddol, ac yn adolygu'r
...
10/07/08
Mae'r Gwasanaeth Cymorth Meddyginiaeth ar Bresgripsiwn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru yn cynnig cymorth i oedolion o bob oed (18 oed neu'n hŷn) sydd ar feddyginiaeth ar bresgripsiwn a allai arwain at ddibyniaeth fel tawelyddion ysgafn, gwrth-iselyddion a chyffuriau i leddfu poen.
03/06/08
Mae'r ymchwil hon yn edrych ar gyfres o astudiaethau achos er mwyn cynhyrchu cyfres o hanesion i daflu goleuni ar y mentrau cymdeithasol sydd ar waith yn y Tair Sir.
21/05/08
Mae'r ymchwil hon yn edrych ar ba mor effeithiol yw'r dulliau ymyrryd presennol a ddefnyddir wrth ddarparu llety ar gyfer carcharorion di-gartref sy'n cael eu rhyddhau yng Nghymru. Mae'n gwneud hynny trwy holi ynghylch eu profiadau a gofyn iddynt eu barn am y staff proffesiynol sy
...
21/05/08
Mae'r ymchwil hon yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth am faterion yn ymwneud ag arweinyddiaeth gynaliadwy yn y sector gwirfoddol ac i ddarparu pecynnau offer er mwyn dechrau mynd i'r afael â hwy.
21/05/08
Ymchwil i brofiadau pobl sydd ag ôl-ddyledion morgais sydd wedi colli eu cartrefi neu sydd wedi wynebu achos o adfeddiannu neu fygythiad o ddwyn achos yn eu herbyn. Yn yr adroddiad, mae tystiolaeth am y rhesymau dros ddwyn achos o adfeddiannu ac mae'n gwneud argymhellion ar fynd i'r afael â
...
31/03/08
Nod yr ymchwil hwn yw casglu tystiolaeth ystadegol o’r gwasanaethau y mae cymunedau ffydd yn eu darparu ar gyfer eu cymunedau ehangach. Mae’n canolbwyntio ar y gwasanaethau y mae cymunedau ffydd yn eu cynnig i’r gymuned ehangach trwy eu gwirfoddolwyr a’u staff cyflogedig, a’r ystafelloedd ac adeila
...
31/03/08
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth cwmpasu polisi a aeth ati i archwilio amgylchiadau plant sy'n byw yn y tlodi mwyaf difrifol yng Nghymru ac ystyried yr atebion polisi mwyaf effeithiol y gallai Llywodraeth Cynulliad Cymru a'i phartneriaid eu mabwysiadu er mwyn mynd
...
21/01/08
Mae'r ymchwil hwn yn archwilio'r ffactorau risg y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth dyfu i fyny yn y gwahanol gymunedau ac ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a'r ffactorau sy'n eu hamddiffyn rhag y risgiau hyn. Nod yr ymchwil yw ennyn gwell dealltwriaeth o'r gwahaniaethau a
...
14/12/07
Mae'r ymchwil hon, sydd ar gael yn Saesneg yn unig, yn edrych ar rolau a swyddogaethau clybiau cinio lleol yn ardal ddaearyddol hen sir Gwent.
14/12/07
Nod yr ymchwil hon, sydd ar gael yn Saesneg yn unig, yw edrych ar faint o weithio mewn partneriaeth sy'n digwydd ym Mhowys, nodi meysydd lle mae pobl yn mynd ati i rwydweithio'n lleol, nodi sut y mae'r partneriaethau hyn yn gweithredu, y manteision sy'n gysylltiedig â hwy a'r hy
...
19/10/07
Y nod yw sicrhau cyflawniad prosiectau ardderchog, dangos beth allwch ei ddisgwyl gan eich cynghorwyr proffesiynol, a dangos y gall cymunedau elwa gan y gwerth ychwanegol a ddaw gyda dylunio da.
19/09/07
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi casgliadau prosiect ymchwil ar y diwydiannau diwylliannol yng Nghymru a wnaed rhwng mis Gorffennaf 2006 a mis Ebrill 2007 ac a gafodd ei ariannu gan Gronfa Syniadau Newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru.
23/04/07
Adroddiad Saesneg yn unig ar ymchwil a wnaed ar y berthynas rhwng mentrau cymdeithasol a busnesau micro, bach a chanolig yn y sector preifat yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cynnig sut i fynd ati i greu mwy o gyfle i'r ddau sector integreiddio.
23/04/07
Prosiect ymchwil i nodi'r gwasanaethau a ddarperir gan y sector gwirfoddol ym Mhowys. Mae'r astudiaeth yn edrych ar gryfderau a gwendidau'r gwasanaethau hyn.
23/04/07
Astudiaeth sy'n nodi sut y gallai'r heddlu ac asiantaethau eraill wella'u dealltwriaeth am anhwylderau yn y sbectrwm awtistig.
23/04/07
Ymchwil sy'n nodi'r dulliau mwyaf llwyddiannus o ddatrys gwrthdaro ymysg cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd ac ym Mro Morgannwg.
23/04/07
Ymchwil sy'n edrych ar sut y gellir sicrhau bod cosbi plant yn gorfforol yn llai derbyniol yn gymdeithasol. Mae'r astudiaeth hefyd yn nodi pa gymorth sydd orau i helpu rhieni i osgoi cosbi'n gorfforol.