Skip to content

Yr ymchwil sydd ar waith o dan y Gronfa Syniadau Newydd

Dolenni perthnasol

Mae'r adran hon yn amlinellu'r arian grant sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â thai ac adfywio cymunedol.

Mae'r Gronfa Syniadau Newydd yn cefnogi prosiectau ymchwil bach drwy roi hyd at £10,000 i bob prosiect llwyddiannus.

Y tro cyntaf i'r Gronfa ddyfarnu grantiau oedd yn 2005, ac ym mis Hydref 2006 dyfarnwyd cyfanswm o £133,461 i 15 o brosiectau eraill. Dyfarnwyd cyfanswm o £180,779 yn 2008. Rhestrir y ceisiadau llwyddiannus isod.

Unwaith caiff prosiect ei gwblhau, byddwn yn cyhoeddi manylion yr ymchwil ar y dudalen 'Cronfa Syniadau Newydd - gwaith ymchwil a gwblhawyd'.


Y prosiectau a gafodd grantiau yn 2008

  • Pwnc ymchwil: Effeithiolrwydd y fenter lleihau risg "Cartrefi Di-fwg" ar gyfer gwella ymwybyddiaeth ac annog ymddygiad mwy diogel ar aelwydydd lle mae'r preswylwyr yn smygu. Sefydliad ymchwil: Atal Tân Cymru/Firebrake Wales.
  • Pwnc ymchwil: Cynnig ymchwil ar gyfer arolwg o droseddu ar sail casineb hiliol yng Nghaerdydd. Sefydliad ymchwil: Race Equality First.
  • Pwnc ymchwil: Allgáu ariannol a phobl ifanc difreintiedig. Sefydliad ymchwil: y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol.
  • Pwnc ymchwil: Astudiaethau achos ar drosglwyddo stoc a chanllawiau arfer da. Sefydliad ymchwil: Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru.
  • Pwnc ymchwil: Astudiaeth archwiliadol o'r berthynas rhwng agwedd ac ymddygiad rhieni a’r defnydd o alcohol ymysg pobl ifanc. Sefydliad ymchwil: Uned Strategaeth Plant a Phobl Ifanc Cyfarwyddiaeth Addysg Dinas a Sir Abertawe, mewn cydweithrediad â Sefydliad Cymdeithas, Iechyd a Moeseg Prifysgol Caerdydd.
  • Pwnc ymchwil: System gofnodi barhaus yng Nghymru. Sefydliad ymchwil: Tai Cymunedol Cymru.
  • Pwnc ymchwil: Gwerthusiad o'r llwybr gofal ar gyfer ymholiadau arferol ynghylch cam-drin domestig. Sefydliad ymchwil: Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf.
  • Pwnc ymchwil: Dadansoddiad o anghenion sefydliadau cymunedol a grwpiau cymorth ffoaduriaid yng Nghymru. Sefydliad ymchwil: Alltudion ar Waith.
  • Pwnc ymchwil: Integreiddio'r Cynghorwyr Annibynnol ar Gam-drin Domestig â Dechrau'n Deg - Gwerthusiad. Sefydliad ymchwil: Prifysgol Caerdydd.
  • Pwnc ymchwil: Gwerthusiad o waith aml-asiantaeth gyda phlant a phobl ifanc sy'n profi effeithiau cam-drin domestig yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Penparcau a Gorllewin Aberystwyth. Sefydliad ymchwil: Prifysgol Aberystwyth.
  • Pwnc ymchwil: "Saving For A Rainy Day…..And It Rains A Lot In Wales!" Sefydliad ymchwil: Ymddiriedolaeth Ddatblygu 3Gs.  
  • Pwnc ymchwil: Dyfodol gwell - llywio cefnogaeth gymunedol ar gyfer cyfnodau pontio pobl ifanc. Sefydliad ymchwil: Uned Pobl a Gwaith Partneriaeth Cymunedol Glyncoch ac Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd.
  • Pwnc ymchwil: Archwilio’r rhwystrau sy’n atal pobl fyddar a thrwm eu clyw rhag cael eu cynnwys yng Nghymru. Sefydliad ymchwil: RNID Cymru.
  • Pwnc ymchwil: Mesur llwyddiant gweithgareddau dargyfeiriol ar gyfer mynd i'r afael â mân droseddu gan bobl ifanc ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe. Sefydliad ymchwil: Prifysgol Abertawe.
  • Pwnc ymchwil: Cynnig ar gyfer gwerthuso prosiect Bardsey. Sefydliad ymchwil: Cyngor Sir Ceredigion.
  • Pwnc ymchwil: Lleihau'r premiwm tlodi yng Nghymru. Sefydliad ymchwil: Sefydliad Bevan.
  • Pwnc ymchwil: Cydweithio i leihau'r bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru. Sefydliad ymchwil: Achub y Plant.
  • Pwnc ymchwil: Ariannu'r sector gwirfoddol - "Yr angen am newid". Sefydliad ymchwil: Jon Matthews Consulting.
  • Pwnc ymchwil: Archwilio mynediad at ofal plant ar gyfer plant anabl er mwyn ennyn dealltwriaeth well o'r rhesymau pam mai canran isel iawn o’r lleoedd gofal plant sydd wedi’u llenwi gan blant ag anableddau. Sefydliad ymchwil: y Gymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol.

Y prosiectau a gafodd grantiau yn 2006

  • Pwnc ymchwil: Dringo'r Waliau (cofnod o brosiect sy’n gweithio gyda menywod i oresgyn anfanteision cymdeithasol ac economaidd). Sefydliad ymchwil: Sylfaen.
  • Pwnc ymchwil: Gwerthusiad o brosiect peilot yn ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau ar bresgripsiwn, Conwy. Sefydliad ymchwil: Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru.
  • Pwnc ymchwil: Rhaglen cynnwys ieuenctid yng nghefn gwlad Cymru. Sefydliad ymchwil: Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
  • Pwnc ymchwil: Gostwng aildroseddu - rôl y sector gwirfoddol. Sefydliad ymchwil: Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro.