Skip to content

Lluoedd arfog a chyn-filwyr

Dolenni perthnasol

Mae rhyw 3 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru ac yn defnyddio gwasanaethau’r GIG.
Gall cynllun Cymorth Prynu y Llywodraeth Cymru helpu pobl nad ydynt yn gallu cyflawni eu hanghenion tai yn y farchnad i brynu cartref addas.
O hyn ymlaen bydd cyn-filwyr yn gallu derbyn gwasanaethau iechyd meddwl lleol sydd wedi’u teilwra ar gyfer eu hanghenion penodol.
Mae gwella gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol bwysig i ddyfodol Cymru.
Mae digartrefedd yn un o'r mathau mwyaf difrifol o allgáu cymdeithasol.
Hofrennydd Griffin o’r Uned Hyfforddi Chwilio ac Achub yn RAF y Fali, mewn ymarfer hyfforddi uwchlaw’r arfordir ger Ynys Môn.
Mae cymuned y Lluoedd Arfog yn rhan annatod o'r gymdeithas yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn rhoi ystyriaeth lawn i'w hanghenion.

Er mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y maes amddiffyn, mae miloedd o bersonél y Lluoedd Arfog wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae'r wlad yn disgwyl llawer oddi wrth ei milwyr, yn ddynion ac yn fenywod. Mae'n rhaid iddynt ddilyn gorchmynion heb eu cwestiynu; yn aml cânt hwy a'u teuluoedd eu gwahanu am amser hir; mae symud o le i le, weithiau ar fyr rybudd, yn tarfu ar fywyd teuluol; gall llety’r Lluoedd Arfog fod yn ddiarffordd, sy'n golygu'i bod yn anodd i bartneriaid â phlant gymysgu â chymunedau sifil.

Mae gan swyddogion y Lluoedd Arfog yr hawl i ddisgwyl bywyd teuluol mor normal â phosibl o fewn gofynion eu cyfrifoldebau milwrol. Fodd bynnag, nid yw gwasanaethau cyhoeddus yn ystyried eu hanghenion penodol nhw bob amser. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud iawn am hyn. Rydym yn gweithio'n galed i gael tegwch er mwyn sicrhau nad yw teuluoedd y Lluoedd Arfog dan anfantais.

Er mwyn dangos ein gwerthfawrogiad i gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a'r aelodau presennol, mae hefyd yn briodol ein bod weithiau'n cynnig gwasanaeth uwch iddynt. Er enghraifft, mae gan gyn-filwyr yr hawl i gael blaenoriaeth ar gyfer triniaeth gan y GIG am unrhyw gyflwr iechyd sy'n codi yn sgil eu gwasanaeth.

I'n helpu i ddeall anghenion cymuned y Lluoedd Arfog a sicrhau eu bod yn cael eu hystyried wrth ddatblygu polisïau a rhaglenni, mae Llywodraeth Cymru wedi:

  • Sefydlu Grŵp Arbenigol i roi cyngor ynghylch y ffordd orau y gall gwasanaethau cyhoeddus ddiwallu anghenion cymuned y Lluoedd Arfog. Mae Grŵp hwn, sy'n cael ei gadeirio gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, yn cynnwys milwyr sy’n gwasanaethu yn y tri Llu Arfog, ynghyd â chynrychiolwyr o Ffederasiynau Teuluoedd y Fyddin, y Llynges a'r Awyrlu a chynrychiolwyr o sefydliadau yn y trydydd sector sy'n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog;
  • penodi Dr June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol a Chymunedau, yn Eiriolwr y Lluoedd Arfog. Rôl Dr Milligans fydd nodi a datrys unrhyw faterion polisi neu ddeddfwriaethol a allai effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog.
I gael rhagor o wybodaeth am y Lluoedd Arfog a'r cymorth sydd ar gael i gymuned y Fyddin, ewch i'r gwefannau canlynol:

I gael rhagor o wybodaeth am y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr yng Nghymru, cysylltwch â  ArmedForces@wales.gsi.gov.uk .