Skip to content

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Dolenni perthnasol

Rhannu gwybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r cylch.
Cyrff a mudiadau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i leihau lefelau troseddu.
Mae'r Safon wirfoddol hon wedi'i hanelu at Adrannau Tai Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru.
Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol i safleoedd ysgolion yn ystod gwyliau ysgol.
Ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn eu hannog i gefnu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mynd i'r afael â difrod troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â beiciau modur oddi ar y ffordd.
Graffiti a sbwriel a gafodd ei dipio'n anghyfreithlon.

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys unrhyw ymddygiad sy'n effeithio'n andwyol ar eraill ac yn amharu ar ansawdd eu bywydau. Dyma rai enghreifftiau:

  • ymddygiad bygythiol neu afreolus
  • iaith sarhaus
  • gollwng sbwriel
  • graffiti.

Yn aml mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn deillio o broblemau ehangach megis tlodi, diweithdra a chamddefnyddio sylweddau. Rydym yn cydweithio gyda sefydliadau eraill i fynd i'r afael â'r problemau hyn yn ogystal ag achosion eraill er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol nawr.

Mae gan bob Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yng Nghymru berson sy'n gyfrifol am gydlynu ymateb i bob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodir. Rydym wedi sicrhau bod y personau hyn wedi'u hyfforddi i sicrhau bod yr ymateb yn cynnwys pob un sydd eu hangen i ddatrys y broblem yn gyflym ac yn effeithiol.

Mae nifer o ddulliau ar gael i ddatrys y problemau hyn gan gynnwys:

  • Anfon llythyr at yr unigolion o dan sylw yn eu rhybuddio am eu hymddygiad.
  • Contract Ymddygiad Derbyniol. Dyma gytundeb ysgrifenedig rhwng yr unigolyn â'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
  • Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Mae hwn yn rhoi gwaharddiadau ar unigolion, er enghraifft yn dweud wrthynt nad oes hawl ganddynt i fynd i rywle arbennig, neu'n dweud wrthynt i beidio ag ymddwyn mewn ffordd arbennig. Os na fydd yr unigolyn yn glynu wrth y gwaharddiadau hyn mae'n bosibl y byddant yn wynebu cyfnod o bum mlynedd mewn carchar, dirwy o £5000 neu'r ddwy gosb gyda'i gilydd.

Mae Respect yn ymgyrch ledled Cymru a Lloegr i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Cynllun Gweithredu Respect yn disgrifio sut y bydd y llywodraeth yn annog parch at eraill yn y gymuned, gan gynnwys lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ceir mwy o wybodaeth am Respect ar wefan Y Swyddfa Gartref.

Gwefan: Wefan Y Swyddfa Gartref (gwefan allanol).